Tudalen:Cymru fu.djvu/225

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Priodwyd Gorphenaf 5"

Ond yn lle llawenhau wrth weled ôl llaw gelfyddgar ei hanwylyd, Meinir a edrychai ar y weithred fel yn temtio Rhagliniaeth, yn ol dull y wlad o siarad yn yr oes hono. "Rhys bach," ebai hi "hwyrach na phriodir mo honom ni, ar ol y cwbl. "

"Paham! fy ngeneth i, a ninau i briodi yforu," ebai yntau tan chwerthin.

" O! y mae llawer o bethau yn croesi ein bwriadau mwyaf pendant. Onid ydych yn cofio fy nhad er'stalm yn addaw ein cymeryd i Ŵylmabsant Nefyn; a'r dydd Sadwrn cyn yr wyl hono, yn cael ei daro gan y methiantglwyf, fel nas gallasai droi yn ei wely."

Gwelai Rhys mai ffolineb ydoedd dwyn dadl mor brudd yn mlaen y noson o flaen diwrnod mor lawen; ac yn fuan ymgollodd yr ymryson yn yr edrychiad serchus, gwasgiad y dwylaw cynes gan fywyd, a phrophwydoliaethau gobeithiol am y dyfodol.

Eithr dy wedir ddarfod i Meinir aros ar ol Rhys wrth y ceubren, a chyfnewidy gair "priodwyd," am "claddwyd."

Wel, pa fodd bynag, ar ol nos fer, yn ystod pa un ni roddes Meinir na Rhys yr un hunell i'w hamrantau, gan fel y meddylient ac y pryderentyn nghylch tranoeth, daeth "dydd y dyddiau," gyda'i brysurdeb a'i ddyddordeb, ar eu gwarthaf. Rhagarwyddai y bore ddiwrnod braf, ac yn yr hen amser rhagarwyddai diwrnod braf einioes heulog a llwyddianus. Yr oedd "haul ar fodrwy," fel "gwlaw ar yr arch," yn bethau a fawr ddymunid gan yr hen bobl.

Erbyn tua deg o'r gloch y bore hwnw, yr oedd y darpariad wedi ei gwblhau, a safai Meinir yn welw gan bryder wrth gadair ei thad. Syllai yn ddyfal tuag at ben y mynydd, lle yr oedd llwybr, ar hyd yr hwn y disgwyliai hi bob mynyd weled y Gwyr o wisgi oed yn dyfod i'w chyrchu tua'r llan. Y "gwyr" hyn oeddynt gyfeillion y priodfab, a ddeuent, yn ol hen ddefod, i gyrchu y briod- ferch i'r eglwys; ac yn ol yr un hen ddefod, yr oedd hithau i'w hysgoi a chymeryd arni ddianc rhagddynt. Yr oedd Rhys a hithau wedi trenfu pa fodd yr oedd hi i ysgoi ei herlidwyr, a'i gyfarfod ef ar y llwybr yn y coed oedd yn arwain at gefn yr eglwys. O'r diwedd, dacw nhw, ddwsin o lanciau gwridcoch iachus, yn prysuro i lawr yr allt; a'r eiliad y daethant i'r golwg, ffwrdd a Meinir am ei bywyd i ymofyn ymguddle ganddynt. Ni buont yn hir cyn cyrhaedd llawr y Nant; ond yr oedd yr aderyn wedi ffoi. Chwiliwyd pob man am dani — yr ysgubor fechan, yr ydlan