Tudalen:Cymru fu.djvu/224

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wneud hyny, dyrchodd ei llygaid gleision tlysion, as yllodd mor bryderus yn ei wyneb hawddgar nes y tybiodd ei fod yn edrych yn brudd, canys hwn oedd y diwrnod olaf iddi drigo tan yr un gronlwyd ag ef. A disgynodd deigryn mawr tryloyw ar ei ffedog stwff newydd wrth iddi fyfyrio mor ddiymadferth oedd ei rhiant; ac fod y ddyledswydd drafferthus, ond hyfryd er hyny, o'i wisgo a'i ddadwisgo am y pedair blynedd ddiweddaf ar derfynu." Nhad," ebai hi, "peidiwch a bod yn drist, mi a ddeuaf i edrych am danoch yn fynych, a byddaf bob amser o fewn cyrhaedd galw." Byddi, fy ngeneth i; byddi ngeneth anwyl i; y Nefoedd a dalo i ti dy garedigrwydd i'th hen dad diamddiffyn. Byddaf fi wedi myn'd toc, toc; ond bendith y Nef fyddo ar dy ben di byth, ngeneth anwyl i". Ac wrth feddwl am briodas ei ferch, a'i fedd ei hun, llifai'r dagrau tros ei ruddiau heirdd yn hidl. Ar hyny, dyma leisiau'r dyeithriaid yn tori ar eu clustiau, ac yn gyru Meinir ar ffo i'w hystafell i liniaru ei theimladau, a pheri i'r hen wr sychu ei ddagrau ac ymsionci "cynta' gallo".

Nid oes eisiau darfelydd cryf i dybied fod yno londer mawr wrth roddi a derbyn y Pwyddion. Dodwyd cig oen, a bara, a gwydriad da o fetheglin gerbron y bobl ddyeithr. Ewyllysid yn dda i'r pâr ieuanc, hir a dedwydd oes iddynt, ac (na bo ond ei grybwyll) llawer o deulu. Wrth yr ewyllysiad olaf hwn, neidiodd holl wyleidd-dra Meinir yn fflam i'w hwyneb. A oes rhywbeth tlysach na gwyleidd- dra diragrith? Y mae bob amser yn arwydd o burdeb a rhinwedd. Erbyn tua chwech o'r gloch, dechreuodd pawb feddwl am gychwyn adref, a chychwynasant yn nghanol y teimladau mwyaf cynes a charedig.

Yr oedd gwyleidd-dra Rhys wedi ei gadw rhag cymeryd. rhan o gwbl yn ngwaith y dydd hwn. Eithr wedi iddo orphen hefo'r gwair, a'i ddodi yn fydylau bychain i gynauafa dros dranoeth; ac i Meinir odro'r geifr a'r gwartheg duon, a nol dau oenig amddifad adref oddiar lechwedd y mynydd; cyn ei bod yn adeg iddi ddadwisgo ei thad, y cariadon a gymerasant y cyfleusdra o gael haner awr yn nghwmni eu gilydd. Rhodiasant law yn llaw hyd y llechweddau hyd oni ddaethant at hen geubren derwen oedd yn sefyll ar fryncyn glas gerllaw y môr. Mynych y cyrchasent yno i eistedd ar y gareg fawr oedd fei sedd o tan y ceubren. Yno'r eisteddasant gan ymddyddan am faterion tranoeth; a thra yn eistedd felly, syrthiodd llygad Meinir ar ei henw wedi ei dori ar risgl y pren o waith llaw Rhys, ac o tan hyny y geiriau.