Tudalen:Cymru fu.djvu/223

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hadgoffa. Digon i'w dweyd ddarfod i Ifan y Gwahoddwr gael derbyniad croesawgar yn mhob man, ac addewidion helaeth am Bwyddion. Yr oedd yr anrhegion hyn yn cael eu cyflwyno y dydd cyn y briodas — dydd Gwener fyddai hwnw fynychaf, gan mai ar ddydd Sadwm fwyaf cyffredin y gweinyddai Hymen yn yr hen amserau wrth yr allorau Cymreig.

Adeg brysur yn Nant Gwrtheyrn oedd y dydd Gwener hwnw. yr oedd pawb ar eu goreu glas yn darparu ar gyfer dyfodiad y cymydogion caredig hefo'u Pwyddion; hyd yn nod yr hen wr methiantus yn ymlisgo o'i gornel i gynorthwyo y merched, cogio, er mwyn gwneud pobpeth yn drefnus. Yna daeth yn amser i'r dyeithriaid ddyfod; ac yr oedd yn bleser edrych arnynt o waelod y Nant yn cynllunio eu llwybrau i lawr y llechweddi serth. yr ieuanc yn cynorthwyo yr hen tros y ceryg, a'r hen yn eu dyddanu hwythau gyda chwedlau a dywediadau digrif a diniwaid; a'r naill fel y llall yn eu dillad goreu, yn dlawd a chyfoethog. Y capiau cambric, gyda'r ffril fawr; a'r hetiau befar yn ddu ddysglaer fel plu y fran, ac yn haner guddio yn fynych wynebau hynod o dlysion; y bais goch, a'r bedgwn glas yn ymsymud i lawr y goriwaered rhwng yr "eithin flodeu aur," a rhosynau cochion y grug; a haul nawn canol haf yn gwenu ar y cyfan, nes gwneud yr olygfa yn hynod o swynol a phrydferth. Yma, yr oedd cyfeilles yn crechwenu mewn iechyd a hawddgarwch wrth ddwyn ei hanrheg o iar a basgedaid o gywion; acw, yr hen wraig gloff wrth ei ffon yn hobian tan gosyn mynyddig o gaws. Rhai yn cyrchu llain o frethyn cartref, eraillyn gwyro tan becyn o flawd ceirch; merch y llaethwr yn prancio tan gunogaid o fenyn; merch y saer yn neidio gydag ystol drithroed ar ei braich; a'r eneth ddall o bentref Llithfaen yn cael ei harwain, gyda'i basgedaid o flodeu gwylltion, a, gasglodd trwy synwyr ei harogledd oddiar y gweunydd. cyfagos er mwyn addurno ystafell y briodasferch ar yr amgylchiad. Pawb wrth eu bodd— mor llawen â'r gog a ganai yn y llwyn gerllaw, mor brydferth â'r blodeu yn masged yr eneth ddall.

Yn y cyfamser, yr oedd hi yn brysur iawn yn y Nant. Meinir yn ymudo yr ychydig ddodrefn a brynasai gyda'i harian gweddill i dŷ Rhys; ac un o'i chwiorydd yntau yn dwyn ei dillad trosodd i dŷ ei hewythr, cany's hy'hi oedd i gymeryd gofal yr hen wr o hyny allan. Yna y briodas ferch a frysiai i dacluso ei thad — i fwclo ei esgidiau, ac i gyweirio ei wallt oedd fel llinynau o arian gwyn. Wrth