Tudalen:Cymru fu.djvu/222

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd Rhys a Meinir tua'r un oed, ond efe flwyddyn yn hŷn. Yr oeddynt yn cyd-chwareu hyd y perthi, yn cyd-ymdaith tua chyflawn faintioli; yn gyfeillion mawr pan yn blant, a phan aeth dyddiau plentyndod heibio, graddol a greddfol aeddfedodd eu cyfeillgarwch yn GARIAD — yn gariad disigl fel Craig y Llam, pur fel yr awel ar ei chopa, a chryf fel y môr ar dymhestl wrth ei godreu. Yn eu byd bychan hwy, nid oedd neb i ladratta serch y naill oddiar y llall — dim lle i eiddigedd roddi ei droed ysgymun i lawr, ac yr oedd pob peth yn rhagargoeli y terfynasai'r garwriaeth mewn glân ystâd briodas. Nid oedd dadl am gywirdeb dybenion y ddau, nac ychwaith am foddineb eu perthynasau i'r cymhariad, yr oedd y pwnc yn hollol yn nwylaw amgylchiadau. Ond yn ngwmni eu gilydd yr oedd nefoedd y cariadon — hyd y bryniau cylchynol, yn casglu cregyn ar y traeth, a chyda'u gilydd yn mrig yr hwyr ar dywydd tawel yn araf rwyfo mewn bad ar hyd y glanau; hefo'u gilydd ar y llechwedd amlwg yn syllu ar yr haul yn ymsuddo dros y gorwel, ac yna ty wallt ffrydiau serch i eneidiau eu gilydd, nes y byddai eu mân-drallodau yn marw, y dyfodiant yn wynfyd o'u blaen, a Nant Gwrtheyrn sobrddwys yn troi yn baradwys o'u cwmpas. Tan ddylanwad y Cariad hwn, gweddnewidid eu Nant yn Werddonau Llion ger eu bron; canai ei hadar fel adar gwynfyd, a'r coed a'r meusydd bychain a edrychent fel gwyrddlesni anfarwoldeb. Yn wir, meddai eu serch y fath angerddoldeb, fel yr oedd yn anmhosibl iddo gynud yn hir yn awyr dawchus y byd hwn, heb losgi ei hunan allan nes dyfod yn oer ni casineb, neu farweiddio'n farwor yn ymuniad defodol y ddau enaid mewn priodas.

Cariad o'r dosbarth olaf oedd yr eiddo Rhys a Meinir. Penodwyd y diwrnod, a dechreuwyd gwneud parotoadau ar ei gyfer. Y pryd hwnw nid oedd swydd y Gwahoddwr wedi ei dileu, na hen Ddefodau cynwynal y Priodasau Cymreig wedi llwyr ddiflanu o'r tir, er fod dosbarth mawr yn y wlad, a'r bobl ieuainc yn enwedig, yn dechreu diflasu arnynt. Yr oedd Rhys. oddiar ei wyleidd-dra naturiol, a Meinir, oherwydd ei phrudd-der cynhenid, yn erbyn dim rhialtwch; ond ni fynai'r hen ŵr glywed son am briodas heb yr "hen arferion." Felly, oddiar barch calon iddo ef, ymostyngasant i'r hen drefn; a phenderfynwyd ar Ifan y Cillau, gŵr ieuanc ffraeth a doniol, mab y fferm agosaf tros y mynydd, i gymeryd y swydd o Wahoddwr. Y mae anhebgor a dyledswydd y swydd hono wedi eu crybwyll eisoes yn ein Cyfres 1af, fel na raid i ni yn bresenol eu