Tudalen:Cymru fu.djvu/230

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wylo'n hidl." Gafwyd hi? Gafwyd hi!" Naddo, naddo. " Adroddodd yntau y gair erchyll mewn gwaedd ddolefus uchel, nes oedd y creigiau cylchynaol yn diaspedain. Yna, gan sefyll ar drothwy yr ystafell fechan briodas, newydd ei gwyngalchu, newydd ei haddurno âg arluniau bychain a phwysiau serch; a chwrlid o glytwaith amryliw ar y gwely, gwaith llaw gelfyddgar yr un golledig, sibrydai: — "Dyma'r nos! dyma'r nos! a hithau heb gartref uwch ei phen; na fydded un byth ychwaith uwch fy mheninau!" A rhwygodd ei hunan o afael ei chwaer ofnus, a ffwrdd ag ef ar redeg tua'r coed ar y mynydd. Ni chymerai y sylw lleiaf o alwadau taeraf ei chwiorydd ar ei ol; a sylweddolwyd eu hofnau; yr oedd Rhys yn Wallgof!

Bu yn grwydryn gwyllt o'r awr hono allan. Ni ddychwelai i blith dynion ond pan fyddai newyn yn gwasgu arno; fel rhyw fwystfil gwyllt a orfodir gan newyn yn nryghin gauaf i gyniwair am ymborth o gwmpas trigfanau dyn. Yn y coedwigoedd anial, ac ogofeydd llaith y mynyddoedd, yr oedd ef yn breuddwydio ei fywyd ymaith, nes y daeth yn wrthddrych gresyndod a dychryn y sawl a edrychent arno. Yr oedd ei farf yn hir, ac yn britho yn gyflym; a'i ewinedd yn hirion fel ewinedd barcut. A thrwy ei fod yn esgeuluso ei hun, yn hir ymprydio, ac yn arwain bywyd gwyllt a direol, ei wyneb a grebychodd fel dail yr Hydref, y rhai oeddynt ei sedd y dydd a'i wely y nos. Ar rai adegau, gwaeddai nes byddai yr adsain yn rybedio o glogwyn i glogwyn, y gair hwnw oedd wrth wraidd ei holl drallod, "Naddo," a'r greadigaeth ddireswm o'i ddeutu a ddychrynai, a'r bugeiliaid yn eu hafod-dai a arswydent trwyddynt. Bryd arall, rhuthrai yn ol a blaen ar lan môr tymhestlog Rhagfyr, a'i donau brigwynion yn bygwth claddu yr adyn unig yn ei glafoerion. Yno y safai yn wlyb gan yr ewyn, ac yn rhuo allan gynddaredd cableddus fel pe buasai gyda'i lais cras am or-ruo cynddaredd yr eigion, yn erbyn y drefn galed hono a gelai rhagddo dynged ei anwylyd. Nid aeth i'w dŷ byth drachefn; ac oddiar ei hawl dreftadol i'r lle, ni oddefai i ddodrefnyn gael ei symud, nac i'r adeilad gael ei adgyweirio mewn un modd; ac felly y safai yn dadfeilio yn ddystaw, ac yn ddrychiolaeth o daclusrwydd dirywiedig, hyd oni ddarfu i wyntoedd cryfion o'r môr ysgubo rhan fawr o'r tô gwellt ymaith, ac y glasoddy muriau gwyngalchog oddifewn mor las â'r dywarchen oddi allan; ac yn y diwedd, y ddallhuan a'r ystlum a gyniweirient ei ystafelloedd, a'r llwynog a'r