Tudalen:Cymru fu.djvu/231

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gath coed, yn eu tro, a epilient ac a udent ar y gwely priodas.

Ond er ei fod yn arwain bywyd y gwallgof, eto, er ei alar, yr oedd ei feddwl yn ymwybodol o'i holl drueni; a hyn sydd yn gwneud gwallgofrwydd y cystudd mwyaf arteithiol a ddichon gyfarfod dyn. Y gorpbwylldra hwnw sydd yn dryllio y teimladau naturiol, y serchiadau, y nwydau, a'r arferion, — heb anmharu ond ychydig ar y deall, aadwaenir gan rai meddygon wrth yr enw "Gwallgofrwydd Moesol;" a'r cyneddfau ynddo fel cyneddfau ambell feddwyn pan y byddo mewn man peryglus — yn gweled y geulan erchyll, ond heb allu i'w hysgoi, gan nad oes ganddo lywodraeth ar ei ysgogiadau. Y cysylltiad sydd yn bodoli rhwng y deall a'r aelodau wedi ymddyrysu a thra mae'r meddwl heb ei anmharu, y mae'r ymddygiadau yn hurt a direol. Anobaith, fel bedd, yn agor ei safn i lyncu'r enaid, a'r deall yn ymwybodol o hyny, eto heb allu i osgoi'r gyflafan o gael ei gladdu yn fyw. Dyma'r wedd erchyllaf ar wallgofrwydd; ac i ddanedd y math yma o'r anhwyldeb y syrthiodd Rhys.

Bu am fisoedd rai heb ddweyd gair wrth neb ond ei Gi. Math o gorgi defaid bychan oedd y ci hwn, yn hanu o dylwytho gwn enwog am eu ffyddlondeb i'w meistriaid, a'u greddf ddeallgar. Pan oedd Rhys yn ei bwyll, arferai y Cidwm ei ddilyn hyd y meusydd i aredig, ac hyd y mynydd i fugeilio. Anfynych y gwelid y ci heb ei feistr, na'r meistr heb y ci. A phan gollodd Rhys ei bwyll, ni chollodd cymdeithas Cidwm. Y lledfegyn gwirion a'i dilynai yn ei holl grwydriadau gwamal, heb ond ychydig luniaeth y dydd, ac yn gorwedd y nos wrth ei draed. Ceisiodd yr hen ŵr unwaith ddiddyfnu ei serch oddi wrth ei feistr trallodedig, trwy ei gau i fynu mewn congl o'r beudy; ond gwelwyd mai trengu mewn caethiwed y buasai yn fuan, gan mor swrth a digalon yr edrychai. Gollyngwyd ef yn rhydd, a chrwydrodd y coed oni ddaeth o hyd i'w feistr drachefn. Arferai Rhys siarad gydag ef fel pe buasai 'n Gristion o ddyn, a dweyd wrtho ei brofiad chwerw a'i helynt blin, a hynny mewn tôn mor alarus, nes byddai'r creadur yn edrych yn myw ei lygaid, ac yn udo'n dorcalonus fel pe buasai'n deall y cwbl. Ond pan ddaeth y gauaf oer, a'r barug gwyn i orchuddio'r ddaear bob bore, tra nad oedd caledfyd yn effeithio ond ychydig ar gyfansoddiad y gwallgof (wedi ei gryfhau gan ei wallgofrwydd), y ci truan a ddihoenodd, ac a drengodd o wir newyn ac anwyd; ac a ddisgynodd yn aberth i'w reddf