Tudalen:Cymru fu.djvu/232

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ardderchog — ffyddlondeb. Yr oedd hyn yn ddyrnod arall i feddwl cystuddiol Rhys, gan ei fod yn colli ei unig' gydymaith ar wyneb daear. Yr oedd ei ymddygiad at y gelain farw yr engraifft fwyaf gyffrous o wallgofrwydd y clywsom erioed son am dani, ac yn ddangoseg alarus y fath greadur distadl a thruenus ydyw dyn wedi ei ymddifadu o'i synwyrau. Gwyliai drosti yn barhaus, cofleidiai hi, a dygai hi oddi amgylch yn ei freichiau am ddyddiau lawer, a thywalltai gwynfanau ei enaid uwch ei phen, nes y darfu i Ifan y Ciliau, ei Wahoddwr gynt, a dau o wyr cryfion eraill, o wir dosturi tuag ato, ruthro arno, a mynu claddu yr ysgerbwd mewn man anhysbys iddo.

Ar ol colli y cydymaith hwn, yr hen geubren hwnw ar gŵr y môr oedd ei gyfaill penaf. "Y mae mor debyg i mi!" meddai; wrtho'i hunan yn goddef holl gynddaredd yr ystormydd, felly finau; yn crino yn gyflym, felly finau; yn ysgwyd ei gangau bregus uwchben môr mawr, i ba un y syrth yn fuan, felly finau; bydd ef a minau wedi myn'd toc, a chyn pen ugain mlynedd (O! y mae'n chwithig meddwl y fath beth) daw cenedl i fynu ac a ddywed ' Dyma lle' roedd yr hen geubren! dacw lle talodd Rhys Meredydd ddyled drom ei natur!' Wrthyt ti, bellach, y tywalltaf chwerwder fy enaid; clywaist lawer o'm hymddyddanion serch, gwrando hefyd ar gwynfanau fy ngweddwdod. Ac os nad elli fy nghlywed, wel, nis gelli fy ngwawdio; ac os nad elli gydymdeimlo â mi, nis gelli ychwaith fy mradychu. A oes genyt ti ffynonell o ddagrau i'w dihysbyddu? Neu fynwes i'w dryllio'n chwilfriw gan ocheneidiau, neu galon i hollti'n ddwy tan ddyrnod siomedigaeth? O, gwyn dy fyd! Tan dy aden garuaidd yn ymgysgodaf y nos, ac y breuddwydiaf am fy Meinir. "

Ac yno y byddai ddydd a nos, yn neidio ac yn gorwedd, yn canu ac yn wylo, yn gweddio ac yn cablu, bob yn ail. Daeth ei chwiorydd yn fuan i ddeall pa le y deuent o hyd iddo, a mynych y dygent fwyd ger ei fron, ac y bwyteai yntau gyda rhaib un ar newynu; ond ni ddywedai air, ddim cymaint â diolch. Am hir wythnosau parhaodd yn y mudandod trwynsur hwn, eithr nid oedd caredigrwydd y chwiorydd yn lleihau — parhaent i weini i'w angenion gyda'r hunan-ymwadiad mwyaf canmoladwy. Pa fodd bynag, o'r diwedd, gwelent arwyddion sirioldeb ar ei wyneb prudd, diolchodd hefyd i'w chwaer yn wresog un tro, ac o radd i radd daeth i siarad yn lled rwydd. Gofynwyd iddo paham yr arosai tan y ceubren mwy nag yn rhy wle arall. Atebodd: " Am fy mod yn adwaen yr hen