Tudalen:Cymru fu.djvu/233

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bren er's blynyddau, ac yn gweled Meinir yn fynychach trwy fy ngwsg odditano nag yn unman arall." Ac o dipyn i beth. cafwyd ganddo ddyfod gan belled â Nant Ifan Meredydd, i weled yr hen ŵr; eithr nid eisteddai i lawr, ac ni fwyteai ddim yno. Safai, a cherddai yn ol a blaen, am oriau weithiau; ond pan ddechreuai nosi, "Rhaidimi fyned," meddai," bydd hi'n dysgwyl am danaf yn union; oes genych chi rhyw genadwri ati, f'ewyrth?" "Dim, fy machgen i, ond y byddaf inau yn yr un byd â hithau yn fuan, fuan. "Fel hyn yr oedd ymenydd afiach Rhys yn cenedlu rhyw feddyliau gorphwyllog ei fod yn gweled ac yn ymddyddan â'i anwyldyd yn y nos, nes y teimlai ei hun yn ddedwydd am yr amser; eithr breuddwyd ydoedd, yn gadael ei feddwl twylledig yn fwy trallodus fyth.

Nid arosai byth yn y tŷ ar ddryghin ychwaith. Mor gynted ag y clywai y gwynt yn chwiban, ac y gwelai'r cymylau duon yn hofran uwch ben, ymaith ag ef, gan ddywedyd, "Bydd hi allan tan holl gynddaredd y dymhestl, a chreulondeb ynwyf fi fyddai aros i fewn." Mewn gwirionedd, yn y ddryghin yr oedd ei hindda; a theimlai'n ddedwyddach yn rhuad y taranau a flachiadau y mellt, pan yn wlyb drwyddo gan y gwlaw, na phan fyddai'r haul yn tywynu, a natur oll yn gwenu o'i ddeutu. Yr oedd y blaenaf yn fwy cydweddol â'i yspryd terfysglyd ef. Un prydnawn, tra y rhagarwyddai natur ystorm ddychrynllyd o fellt a tharanau, efe a safai yn nrws y tŷ, ar gychwyn i'w ddewisol fan, o tan yr hen geubren; a Gwyneth a aeth ato ac a ymbiliodd âg ef, am iddo er ei fywyd beidio a gadael diddosfan. "I ba beth yr arosaf, fy ngeneth wirion?" ebai ef," yr wyf mor gynefin â dychrynfeydd fel nad oes gan angau ei hun yr un dychryn i mi. Y mae, ystormydd o'r fath yma yn llai na dim wrth eu cydmaru â'r ymrysonau parhaus sydd yn y fynwes hon rhwng gobaith ac anobaith. Byddaf weithiau yn dewis angau yn hytrach nag einioes, ond pan ar gyflawni yr echryswaith, daw ataf y meddwl o'i bod hi hwyrach eto yn fyw, ac y byddwn yn ei gadael o'm hol; yna, penderfynaf fyw, a theimlaf y byd hwn yn oer a gwag hebddi. yr wyf yn debyg i'r betrisen drallodus yn gregan yn yr hwyr am ei chymar a fyddo wedi syrthio trwy rhyw law anhysbys yn ystod y dydd. Bryd arall, byddaf yn gweddio ar i Dduw tosturiol rwygo y llen hwn sydd yn gorchuddio fy llygaid, a datguddio ei thynged, ei gweddillion, ei bedd. Ni ddymunais hapusrwydd, canys y mae amser hapusrwydd wedi myned heibio arnaf am byth. O, mae fy nghynged