Tudalen:Cymru fu.djvu/235

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddyfnderau gwae ac anobaith, fy ngweddi olaf: 'Chwâl y gyfrinach erchyll hon, fel y mae'r fellten yn rhwygo y tywyllwch acw (dos adre, eneth, dos adre). Pâr i'r dydd hwn fod i mi yn debyg i'r dydd hwnw y datguddir y dirgelion oll. Tyngedaf y ddaear a'i thrigolion, y môr a'i feirwon, y nef a'i seintiau, i eiriol ar fy rhan. O! fy ngwraig, fy Meinir golledig! o'r cymylau acw, neu o'r dywarchen hon, yn llwch neu yn angel, deisyfaf, erfyniaf, gweddiaf, am dy weled — dy weled am fynyd — un gipdrem arnat, yna rhoddaf fy mhen ar y ddaear oer i farw. "

Cyn iddo bron orphen llefaru, dyna fellten gyda blaen ei haden yn ei daro'n gydwastad â'r llawr wrth fôn y pren; a chlywai Gwyneth drwst ofnadwy yn ei hymyl, fel trwst môr rew yn ymddryllio yn filiwn o ddamau; a phan agorodd hi ei llygaid, gwelodd olygfa a barodd iddi eu cau drachefn mewn llewyg. Yr oedd y pren wedi hollti o'i frig i'w fôn, gan ddangos geuedd mewnol, ffaith na wyddid o'r blaen; a thrwy yr hollt hi a welai wrthddrych erchyll, — ysgrwd (skeleton) yn sefyll yn syth yn y ceuedd — y penglog dignawd wedi glasu gan leithder, a'r esgyrn eraill wedi eu cànu gan yr hin, a llinynau o wisg fraenedig, gwisg briodas Meinir; ac esgyrn y breichiau yn sefyll i fynu yn syth; y cwbl yn llefaru am angau dychrynllyd. Yr oedd y briodasferch anffodus, ar ol myned tros y bryn hwnw lle y gwelsai ei thad hi ddiweddaf, wedi dringo i ben y ceubren, ar y bwriad o ysgoi ei hymlidwyr diwaid, ac wedi syrthio i'r ceuedd a methu dringo i fynu yn ol, gan lynu yno a marw, fel y collodd llawer eu bywydau mewn simneuau.

Amcanodd Gwyneth gelu yr olygfa rhag Rhys, yr hwn erbyn hyn oedd yn dechreu ymysgwyd o'i lewyg; ond yn ofer. Daeth yn mlaen tua'r fan, fel pe buasai'n gwybody cwbl; gwthiodd hi draw, nes y safai wyneb yn wyneb y priodfab curiedig a'r briodferch hir-golledig, a gwedd y byw wedi newid nemawr llai na gwedd y marw. Cyfeiriodd y gwallgofddyn â'i fys at y gwrthddrych sobr, a gwenodd ar ei chwaer y fath wên arswydus, a gyfleai y drychfeddwl o'i hyfrydwch a'i alar wrth gyfarfod yr un yr ymchwiliasai gymaint am dani — a'i chyfarfod felly! Datguddiwyd y gyfrinach o'r diwedd; a pha beth oedd ei deimladau ef nis gwyddis; nid hysbysodd hwynt ond gyda'r wên galonrwygol hono. Gan daflu cipolwg drachefn ar weddillion yr hon fu cyhyd yn absenol, eto yr holl amser mor agos, syrthiodd ar y llawr, a chyn pen ychydig fynydau yr oedd ei enaid helbulus wedi gadael ei