Tudalen:Cymru fu.djvu/236

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

farwol ran curiedig.! i'r cyfryw y mae marw yn felus. Arosodd y wên annaturiol hono ar ei wynebpryd pan yn gorph, wedi ei rhewi yno gan farwolaeth. Claddwyd y ddau yn yr un arch; ac os ar wahan mewn bywyd, yr oeddynt yn un yn angau.

Ni bu yr hen ŵr, tad Meinir, fyw ond ychydig fisoedd ar ol caffaeliad ei ferch; pwysodd y peth mor drwm ar ei babell wanllyd, fel y dadfeiliodd yn fuan. Edwinodd Gwendolen, chwaer hynaf Rhys, mewn darfodedigaeth, ac agorwyd y bedd iddi hithau. Geneth brudd fel yr helygen oedd hi. Gwyneth yn unig oedd yn aros, mewn llawn feddiant ar y Nant. Daeth yn llances wridgoch, er holl afiechyd bore ei hoes. Hi a ymbriododd gyda Ifan Huws y Ciliau, gwahoddwr yr anffodus Rhys; a bu'r ddau fyw i oedran teg, a chawsant farw ar obenydd, a blodeu'r pren almon yn addurn i'w penau.

Hwyrach y bydd ambell un yn gofyn pa le y mae moeswers y chwedl brudd flaenorol; nid oes genym ond gadael i'r cyfryw dynu ei gasgliadau ei hun oddiwrthi; gan mai nid ein dyledswydd ni ydyw gwneud chwedloneg yn ddamheg. Yr ydym yn ddyledus i'r Cambrian Quarterly Magazine, cyhoeddiad rhagorol ond prin iawn yn bresenol, am esgyrn a rhai o ddefnyddiau y BRlODAS YN NANT GWETHEYRN.