Prawfddarllenwyd y dudalen hon
300 O DDIAREBION CYMREIG.
- PECHODAU athrawon ydynt athrawon pechodau.
- A ddysger i fab ddydd Sul ef a'i gwybydd ddydd llun.
- Gwna dda ni waeth i bwy.
- Nid oes dŷ heb ei gyfrinach.
- Gwell myn'd i gysgu heb swper na deffro mewn dyled.
- Allwedd tlodi, seguryd.
- A hauo ddrain na fydded droed-noeth.
- Ni thỳr dyrnod gwrach yr un asgwrn.
- Ni chêl grudd gystudd calon.
- Y groes waethaf yw bod heb yr un.
- Ar ni phortho gath porthed lygod.
- A wnel Duw a farn dyn.
- A wnel dyn Duw a'i barn.
- A wnel dwyll a dwyllir.
- Nid twyll twyllo twyllwr.
- Balchder heb droed (h.y. heb foddion i'w borthi.)
- Po tynaf bo'r llinyn cyntaf oll y tỳr.
- Breuddwyd gwrach yn ol ei hewyllys.
- Cadarnach yr edef yn gyfrodedd nag yn ungor.
- Cyfaill blaidd bugail diog.
- Cyn fynyched yn y farchnad, croen yr oen a chroen y ddafad.
- Cynt y cyferfydd dau ddyn na dau fynydd.
- Câr cywir, mewn ing ei gwelir.
- Asgre lân diogel ei pherchen.
- Dadleu mawr yn nghylch cynffon llygoden.
- Deuparth gwaith yw ei ddechreu.
- Digrif gan bob aderyn ei lais ei hun.
- Dyled ar bawb ei addewid.
- Duw a ran yr anwyd fel y rhan y dillad.
- Da gan y gath bysgod, eithr nid da ganddi wlychu ei throed.
- Ewyn dwfr ydyw addewid mab.
- Aelwyd ddiffydd, aelwyd ddiffaeth.