Tudalen:Cymru fu.djvu/247

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bwlch yr Heyrn, goddiweddodd hen amaethwr o Ddolyddelen, yn myn'd i farchnad Llanrwst. Yr oedd yr hen ffermwr hwn yn meddwl ei bod yn tynu at" lasiad dydd," pan mewn gwirionedd nad oedd ond tri o'r gloch y bore gefn y gauaf; nid oedd clociau gan neb y pryd hwnw — cloc yr hall Llanrwst oedd yr unig awrlais yn Nyffryn Conwy. Pa fodd bynag, aeth yn ymgom rhwng Robin a'r gwladwr, ac yn yr ymgom hono dywedai ein harwr, wrth son am y naill beth a'r llall, "Wyddost ti beth? pan dyf bedwen ar dalcen tŷ y Gwydr Isaf yn gyfuwch a chorn y simddai, bydd y Gwydr Isaf yn llyn dwfr a'r Gwydr Uchaf yn gorlan defaid." Rhyfeddai ac amheuai ei gydymaith y fath ddywediad. "Y mae cyn wired," ebai yntai, "ag y tery cloc Llanrwst dri o'r gloch pan gyrhaeddwn y farchnad." Cyn wired a bod dwr yn Nghonwy, dyma'r cloc yn taro tri mor fuan ag y daeth y ddau i'r farchnadle; er fod y gŵr o Ddolyddelen yn disgwyl yn siwr mai saith neu wyth fuasai yn daro. Rhyfeddach fyth; y mae bedwen iachus yn tyfu oddiar dalcen y Gwydr Isaf, a thuag ugain mlynedd yn ol, yr oedd y pren wedi dringo mor agos i linell derfyn y darogan, nes y tybiwyd yn ddoeth godi y simddai ddwy neu dair llath yn uwch, er mwyn gohirio y trychineb. Felly nid yw Gwydr Isaf yn llyn dwr na'r Gwydr Uchaf yn gorlan defaid, eto; hyd oni thyf y fedwen yn gyfuwch a chorn y simddai.

Gyda'r un rhagwybodaeth cyfrin y daroganodd efe hefyd y canlynol:

Codais, ymolchais yn Môn,
Boreubryd yn Nghaerlleon,
Canolbryd yn y Ŵerddon,
A'r prydnawn wrth dân mawn yn Môn.

Gydag agoriad rheilffordd Caer a Chaergybi gall dyn fod yn bersonol yn y manau uchod, fel y bu Robin Ddu yn ddychymygol.

Dyma Ddarogan arall o'i eiddo:

Dwy flynedd cyn aflonydd
Pont dos Fenai a fydd

.

Agorwyd y Suspension tros Fenai yn y flwyddyn 1826; a'r Britannia yn 1849; ond ni wyddis fod agoriad yr un o'r ddwy yn rhagflaenu unrhyw aflonyddwch annghyffredin. Ond gwyddai yr hen ddewin cyfrwysgall yn dda mai byd aflonydd ydyw hwn, a pha bryd bynag'y cyf-