Tudalen:Cymru fu.djvu/251

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond nid oedd y boneddwr na'i foneddiges yn gwybod dim am yr ymdrafod hwn; ac yr oedd Robin yn penderfynu na byddai iddo dori ei air yn y gegin na datguddio yr euog. Felly yr oedd yn rhaid iddo drethu ei ymenydd drachefn am gynllun a fuasai yn eu dychwelyd i'w perchenog yn ddyogel a diammheuaeth, a fuasai hefyd yn celu y dull y daeth ef o hyd iddynt. ac ar yr un pryd, cynllun a fuasai yn adlewyrchu clod arno ef fel dewin. Ac yn yr olwg ar ei anhawsderau blaenorol nid oedd hwn ond anhawsder bychan. Cyn cysgu y nos hono yr oedd efe yn dyfeisio ei ddyfais. Cododd yn bur fore dranoeth, a gwelai haid o wyddai yn pori ar y maes tu cefn i'r palas; aeth tuag atynt, a'r gemau mewn darn bychan o fara ganddo. Sylwodd yn graff ar un ohonynt a thaflodd y darn bara gerllaw hono, a llyncwyd ef ganddi yn' uniongyrchol. Yna efe a ddychwelodd i'r tŷ, a chyfarfyddwyd ef wrth ddrws yr ystafell gan y boneddwr, yr hwn a ofynai iddo os cawsai efe rhyw awgrym am y gemau eto. Ebai'r dewin, " Deuwch allan gyda fi yn mhen ychydig fynydau, a dangosaf pa un o'ch adar sydd yn cadw eich trysor. "Felly fu; aeth y boneddwr ag yntau i'r maes, a dangosodd Robin iddo yr wydd lwyd. "lleddwch hon yna," ebai ef, "a chewch yn ei choluddion y tri gèm a gollasoch. "Rhyfeddodd y gŵr boneddig yn fawr at y fath ddywediad; ond yr oedd yn rhaid ufuddhau i'r gorchymyn. "Dyma nhw," ebai Robin, wedi lladd ac agor yr aderyn, "yn gyfan a dianaf. Dyna i chwi ddewin!" gan ymsythu a haner gredu ei fod yn rhywbeth uwchlaw dynion cyffredin mewn gwirionedd." Dyfod yn ddamweiniol yn. mhlith yr ysgubion o'r parlwr i'r domen a wnaethant, a'r wydd hon yn ei rhaib a'u llyncodd. "Wel, ni fu erioed y fath groesaw ag a gafodd ef: yr oedd y foneddiges yn barod i fyned ar ei gliniau i ddioich iddo; cafodd yr anrhydedd o ymborthi wrth yr un bwrdd gyda y boneddwr, a diwrnod neu ddau o hela yn ei gymdeithas; ac nid oedd neb yn fwy ei llawenydd na'r forwynig anonest yr arbedodd efe ei bywyd trwy gelu ei chamwedd.

Wedi aros yno am fis yn mhellach, i wledda ac ymddigoni, daeth i'w fryd ddychwelyd adref; a'r boneddwr llawen a wnaeth anrheg iddo ar ei gychwyniad o farch gwineu ysgafndroed llygadlym, ac ar gefn hwnw, a chanddo haner canpunt yn ei logell, y dychwelodd efe i Arfon.

Dyna'r dull a gymerai Robin Ddu i enill ei fara, ac