Tudalen:Cymru fu.djvu/284

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ffrainc), eu cyflenwi a lluniaeth, neu unrhyw nwydd defnyddiol arall tan y perygl o gael eu hystyried yn elynion i'r brenin, a'u cosbi yn gyson â hyny. Nid oedd awdurdodau eglwys Rhufain ychwaith yn ddystaw yn y cyfwng pwysig hwn. Arfer y Butain bob amser, pan ddigwyddai cweryl rhwng ei chariadon oedd ochri gyda'r blaid gryfaf a chyfoethocaf; mor debyg i butain! Danfonodd Archesgob Canterbury lythyr at Llewelyn yn mha un y bygythid ef gyda'r dialeddau trymaf, onid ymostyngai; ac yn mhen ychydig amser, ysgymunwyd ef, a dodwyd ei holl feddianau tan felldith.

1277.

Yn gynnar yn y gwanwyn, Iorwerth a ddanfones gatrawd o dri chant o wŷr meirch i luddias rhuthriadau y Cymry ar y Cyffiniau. Apwyntiodd Syr Roger Mortimer yn gadben milwrol iddo yn siroedd Amwythig a Hereford; a neillduodd Mehefin 1af yn ddiwrnod i'w wŷr ei gyfarfod ef yn Worcester. Nid arbedai Iorwerth unrhyw foddion, pa mor anweddus ac isel bynag, tuag at ddwyn ei fwriadau i ben. Profai hanesyddiaeth mai yn ymraniadau y Cymry yr oedd eu gwendid, a rhoddodd ei holl falais ar waith i fegino anghydfod rhwng eu penaethiad. Danfonodd at Iarll Warwick, ei gadlywydd yn sir Gaerlleon; ac at Payen de Chaworth, swyddog cyffelyb yn Neheudir Cymru, yn peri iddynt gyhoeddi heddwch i bob arglwydd a ymostyngai i'w awdurdod. Bu y cynygiad hwn yn abwyd llwyddiannus, canys Rhys ab Meredydd, Gruffydd ab Meredydd, Cynan ab Merydydd, a Rhys Windawd, arglwyddi cedyrn yn y Deheubarth, a droisant eu cefnau ar y Tywysog, ac a ymunasant â'r Saeson. Bu hyn yn angau i achos Llewelyn yn y parthau hyny, canys dilynwyd y gwŷr dylanwadol hyn yn eu hanwladgarwch gan y mân arglwyddi cymydogol; syrthiodd castell Ystradwy, ac ymwthiodd y gelynion mor bell ag Aberystwyth, lle yr adeiladasant gastell.

Yr oedd yr ystorm erbyn hyn yn dechreu ymdorri ar ein hanffodus dywysog, a haul annibyniaeth y genedl yn gogwyddo at fachlud; ac ni bydd gennym bellach, er mor annifyr y gwaith, ond cofnodi digwyddiadau pruddaidd y machludiad hwn, a gwylio symudiadau Llewelyn ddewr hyd yr awr felltigedig hono y syrthia efe yn ysglyfaeth i gynllwynion bradwyr. Yn fuan ar ol y Pasg, Iorwerth a ymadawodd o Lundain am ororau Cymru, er mwyn rhagddarparu pethau. Trefnodd fod i lynges y Pum Porthladd