Tudalen:Cymru fu.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar ol treulio diwrnod yn un o'r ymgyrchiadau hyn, yn yr hwyr cydeisteddai y cwmni oddeutu y tân, a thrôdd yr ŷmddyddan ar Draddodiadau Cymreig. Yn mhlith eraill, dygodd Gwenlliw y traddodiad am Gadair Idris gerbron, sef, fod i bwy byuag a dreuliai noson yn y Gader fod naill ai "yn wallgof, yn fardd, neu yn farw," erbyn tranoeth. Dywedai ddarfod i Taliesin a Merddyn fyned trwy y prawf llymdost, a dyfod i lawr o'r mynydd yn y bore yn feirdd godidog. Dygodd Gwenlliw hefyd gerbron hanes "Pen- defiges y Gader," yn y 13eg ganrif, yr hon a benderfynasai brofi gwiredd y traddodiad yn y gobaith o gael eneiniad corn olew yr awen. Ymdrechodd ei chyffesydd a'i chyfeillion ei pherswadio o annoethineb ei phenderfyniad; ond nid oedd dim yn tycio, yn unig hi esgynodd y mynydd ar y noson apwyntiedig, gan wynebu cynddaredd yr ystorm, ac aneirif ysbrydion y tywyllwch a ddawnsient yn yr oes hygoelus hono ar bob twmpath a bryn. Pan aed i ymofyn am dani bore dranoeth, cafwyd hi yn welw a marw, a'r gwynt dideimlad yn siglo torchau ei gwallt du sidanaidd yn erbyn ceryg llwydion y Gader; a'r difrifohleb argraffedig ar ei gwynebpryd tirion yn profi yn ddiymwad mor galed fu angau wrthi. Gwrthodwyd iddi gladdedigaeth Gristionogol yn meddrod y teulu, oherwydd ei hanufudd-dod i gynghorion ei hoffeiriad; ac o ganlynlad, ychydig o'i chyfeillion a'i pherthynasau galarus a'i claddasant hi yn ddistaw ac wylofus o dan domen o geryg ar lechwedd y mynydd.


Wedi adrodd y prudd-hanes uchod, cymerth Gwenlliw ei thelyn, a chwareuodd arni un o'r hen alawon syml a chynhyrfus Cymreig a wefreiddiant yr enaid, ac a barant i Gymro annghofio ei ddyndod. Dylynai y fanon ieuanc y delyn mewn llais lleddf a thyner, yn gyntaf galar geiriau gwladgarol rhyw hen fardd Cymreig; ac wedyn mewn dernyn coeth teimladol o waith y farddones ddiguro hono Mrs. Hemans.


Yr oedd Gwenlliw wedi ei llyncu i fynu gan "Hanes Pendefiges y Gader" — ystyriai hi yn siampl i fenywod y byd, ac yn arwres deilwng i'w hefelychu. Ond nid felly am y gweddill o'r cwmni; un a'i beiai am ei rhyfyg, y llall a gondemniai ei hanufudd-dod i'w chynghorydd crefyddol, ac arall a wawdiai ei hofergoeledd yn y fath dyb wirionffol; ond Griffin, oherwydd hynodrwydd yr hanes, ac yn unol âg arfer ei gydwladwyr call am bobpeth Cymrieg, a wadai fodolaeth y Bendefiges o gwbl. Nid effeithiodd gwrthwynebiad ei brodyr a'i chwiorydd ond ychydig ar