dymer Gwenlliw; ond chwerwodd geiriau diystyrllyd Griffn holl felysion ei henaid, a chan daflu golwg ddirmygus arno, hi a'i hanerchodd — "Nid ydych yn gwybod eto beth ydyw nerth penderfyniad merch; ond diamheu y cewch wybod cyn hir;" ac er fod y geiriau yn cael eu llefaru gyda phwyslais dwys, a gwefr yn neidio o lygaid y ferch ieuanc wrth eu traethu, ni thybiodd neb o'r cwmni fod ystyr pellach iddynt nag arddangosiad o deimlad brwdfrydig ar y pryd. O hyny allan, ni addurnodd gwên wyneb hawddgar Gwenlllw; hi ddrychai yn synedig, fel pe buasai ei meddyliau wedi ymgladdu mewn rhyw gynlluniau pwysig.
Yna daeth adeg y " Nos da'wch," ac "Am y cynta' i
lawr yn y bore," ac mewn prudd-der dyeithr yr ymadawodd Gweulliw
am ei hystafell wely. Nid oedd meddwl
Griffin chwaith yn gwbl dawel oherwydd ei amryfusedd
yn gwadu un o hoff dybiau ei anwylyd. Y peth cyntaf a
dynodd ei sylw wedi cyrhaedd o hono i'w ystafell, ydoedd
chwiban cwynfanus y gwynt oddiallan; ac wedi codi llen
y ffenestr, efe a welai yr awyr yn llawn cymylau duon
mawrion bygythiol, a holl natur fel pe buasai yn y
weithred o ddarllaw rhyw ystorm ddychrynllyd. Tynodd
ei hunan yn ol mewn arswyd o ŵydd y fath olygfa
gyffrous, a diolchai mai yn ystafell wely gysurus y Talglyn
yr oedd i dreulio y noson, ac nid ar fôr, neu ar un o lethrau
digysgod y mynydd; ac, er i sŵn pruddaidd y gwynt ei
suo yn fuan i gysgu, yr oedd ei feddwl yn llawn bywiogrwydd,
yn crwydro o'r naill fangre i'r llall, a chrëu mil
myrdd o ddychymygion gwylltion a rhamantus. Ond y lle
yr ymsefydlai arno yn fwyaf neillduol oedd Cader Idris.
Breuddwydiai ei fod yn crwydro hŷd ei chopa yn mhlith y
ceryg mwsoglyd, gerllaw y gadair doredig yn y graig, a'r
aphwys dychrynllyd islaw iddo. Ac nid oedd y Gader yn
wâg. Eisteddai ynddi un o ymddaugosiad fenywaidd.
Efe a welai ei gwisg wen yn siglo trwy dywyllwch y nos;
a'i gwallt rhydd yn ymdoni o faen yr awelon, ac un llaw
iddi fel pe yn gorchuddio ei llygaid rhag rhyw olygfeydd
annymunol, tra yr ymgydiai y llall yn mraich yr orsedd.
Rhuai y taranau yn y clogwyni fel pe buasent yn eu
malurio yn deilchion, a fflachiai y mellt yn ffyrch fflamllyd
gan amgylchu pen y foel â thalaith o dân, ac wed'yn
disgynent yn îs, gan dailu eu gwawl brwmstanaidd ar y
druanes a eisteddai ei hunau yn nghanol cynddaredd yr
elfenau. Yna, ymdywalltai yr ystorm yn ei holl nerth
ar ben y mynydd — yn gesair hyrddiedig gan wynt,