a'r ffurf welw yn y Gader gyfareddol a oddefai y cyfan.
Clywai y breuddwydiwr leisiau annaearol yn gymysgedig
â gruddfanau y corwynt, a gwelai glytiau mawrion
o ia yn llithro heibio yn nghanol lluwchfeydd gwlaw a
chenllusg; ac yn ngoleuni y fellten ddiweddaf, gwelai y
ddrychiolaeth yn tynu ei llaw oddiar ei llygaid, ac yn
datguddio gwynebpryd geneth ieuanc — gwyneb Gwenlliw!
— mor angeuol ei thremyn, mor llawn o drallod chwerw,
fel y deffrodd y breuddwydiwr yn grynedig, a dafnau
mawrion o chwys yn crogi ar ei ddwy ael. Bu yn myfyrio
am enyd beth allasai fod ystyr y weledigaeth ryfedd, ond
meistrolodd cwsg ef eilwaith; a deffrodd mewn bore braf
— yr awyr yn las, yr adar yn llawen ganu, a'r coed a'r
maesydd wedi adfywio ar ol y dymhestl. Aeth i lawr i'r
ystafell foreufwyd gyda chalon ysgafn, lle yr oedd Gruffydd
a'i ddau fab a'i ddwy ferch henaf, ac wedi cyfnewid moesgyfarchiadau,
gwelwyd fod Gwen yn absenol.
"Anfynych y mae hi yn olaf," ebe ei thad, "anfonwch
ei llawforwyn i'w hysbysu ein bod oll yn disgwyl am dani."
Daeth y forwynig yn ol, gan ddweyd fod drws ei
hystafell yn gloedig, ac iddi guro amryw weithiau, heb
gael un ateb.
Synasant at yr hysbysiad hwn; aethant oll i fynu ar
frys, yn cael eu blaenori gan y penteulu; yr hwn a alwodd
wrth ddrws yr ystafell, mewn llais crynedig, "Gwen!
Gwenlliw, fy anwylyd." Dim ateb. Torwyd y ddor, ac
yr oedd yr ystafell yn wâg, y ffenestr yn agored, a darn o
riban ar yr astelch oddiallan wedi ei fwydo a'i ddrygliwio
gan y gwlaw. Adwaenid ef fel eiddo Gwenlliw; a
chasglwyd oddiwrth hyn fod y ffoadures allan cyn i'r
ystorm ddechreu, ac i hwn syrthio oddiwrthi ar ei "hymdaith.
Yr oedd pob mynwes erbyn hyn yn faes ymryson
gwahanol opiniynau, a chrebwyll pob un o honynt ar
lawn waith; ymddangosai Gruffydd wedi ymgolli mewn
syndod, nid ynganai air am enyd wrth neb.
"Rhaid ei bod wedi myned cyn yr ystorm," ebai y ferch
henaf. "Neithiwr! yn yr ystorm!" ebai ei thad o'r
diwedd, "rhaid fod fy anwyl, anwyl eneth yn wallgof;
neu ai tric ydyw y cwbl? na, ni feddai hi galon allai
gellwair yn y dull yma."
Tra yr oedd y syfrdandod a'r penbleth hwn yn parhau,
ymsaethodd drychfeddwl ofnadwy trwy enaid Griffin gyda
nerth a chyflymdra un o'r mellt a welsai yn nghwsg —
ei freuddwyd — yr ymryson yn nghylch "Pendefiges y
Gader," a'r penderfyniad diysgoghwnw yn argraffedig ar ei