Tudalen:Cymru fu.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwynebpryd pan ymadawodd efe â hi y noson flaenorol.


"Mi wn i ynmh'le y mae hi," meddai, "ar y mynydd! ar Gader Idris yn wallgof neu yn farw cyn hyn! a minau, hurtyn, fu'r prif achos i'w hanfon yno!"


"Fy anwyl gyfaill ieuanc, y mae eich pryder yn peri i chwi siarad yn ynfyd. Cader Idris! pa fodd y dichon iddi fod yno ? Anmhosibl!" ebai y tad.


"Mae hi yno," atebai Griffin, ac argyhoeddiad dwfn o wirionedd yr hyn a ddywedai yn glywedig yn ei lais. "Hi soniodd neithiwr am fyned trwy y prawf llymidost o dreulio noson yn y Gader; a minau yn cysgu tra yr oedd hi yn marw yn y dymestl. Dilynwch fi yn ddioed; a dygwch gyda chwi ryw gordial adfywiol, os nad yw o drugaredd, yn rhy hwyr."


Llefarai gyda'r fath awdurdod fel y lladdodd bob gwrthwynebiad yn y fan, a chyn pen pum' munud yr oeddynt yn prysuro at odrau y mynydd. Efe a'u blaenorai hwŷnt oll; yr oedd ei galon ar dân; a theimlai mor ysgafndroed a'r ewig buan. i fynu hyd y ceryg rhyddion, heibio i'r twmpathau eithin a'r llwyni grug, heibio i'r ffrydiau sidellog a'r creigiau brawychus, ar hyd llwybrau geifr a mân ddefaid y mynyddoedd, ac efe a safai gan ddyheu ychydig latheni islaw y Gader. Sylweddolwyd ei freuddwyd. Yno yn ei gwisg o fuslin a'i mantell fraith, wedi eu llygru gan y gwlaw a'r pridd, yr eisteddai Gweulllw, mor oer a'r Gader ei hunan. Ei gwallt hir didrefn yn gorchuddio ei gwyneb prydferth; a'i dwylaw bychain wedi eu tŷn blethu yn eu gilydd. Gwasgodd hi i'w fynwes mewn dull haner gwallgofus, galwodd arni wrth ei henw, gwahanodd y gwallt gwlyb oddiar ei hwyneb, a gwelai yno yr un ddelw o drueni — yr un argraff o gyfyngder ac arswyd ag a bortreadwyd iddo gan ei ddychymyg mewn breuddwyd. Ond yr oedd ei thafod hi yn rhy gaeth i ddyferu gair o gysur iddo yn ei adfyd, y llygad gloew bywiog megys wedi sefyll gan hylldremu ar bethau dychrynadwy, a'r galon oedd ddoe yn chwyddo gan serch wedi oeri am byth. Claddwyd hi wedi machlud haul tu cefn i eglwys y plwyf, — lle beddrod estroniaid, a'r dosparth hwnw o ddynolryw a aberthant fywyd ar allor drychfeddwl. Oherwydd amgylchiadau ei marwolaeth, ni ddarllenwyd y Gwasanaeth Claddu. Yr ochenaid yn unig a doiai ar ddystawrwydd y seremoni, hyd oni ddiaugodd y geiriau hyn o enau y tad : — " Gwyn ei fyd y pur o galon;" ac yr atebwyd ei ddymuniad gan "Amen" pawb oedd yn bresenol. Teimlai Griffn ei