Tudalen:Cymru fu.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

galon yn hollti yn ysgyrion, a phob peth anwyl ganddo ar wyneb daear yn cael eu claddu gyda'i anwylyd. Daeth yn ol o Gymru, byth i ddychwelyd mwy; a seriwyd delw Cader Idris, a Gwenlliw brydferth farw yn eistedd ynddi, ar lechres ei galon nad all amser a'i amgylchiadau byth eu dileu.

Y "WLAD" A "SYR ORACL."

UN o ddyledswyddau cywreiniaf yr hynafiaethydd ydyw olrhain tarddiad enwau lleol; ac o dan rai amgylchiadau, y mae yn ofynol i'r dysgedigion hyn feddu darfelydd lygadog anarferol, canys nid ellir rhoddi eglurhâd yn y byd ar ambell enw heb lusgo gair neu chwedl gerfydd eu clustiau o'r pellderoedd, ac yna eu naddu a'u tacluso modd yr edrychont yn lled drefnus, ac y caffont eu rhwth-lyncu gan y chwilfrydus a'r addolwr Rhyfeddod. Pan na fyddo darnodiad "Syr Oracl" yn ei boddloni, aiff y "Wlad" at y gwaith o ddarnodi ei hunan, ac y mae yn ddifyr sylwi ar y gwahaniaeth barn sydd rhwng y naill a'r llall. Y mae y blaenaf yn credu mai doethineb ydyw ei fympwy ef, a'r olaf yn tybied mai gwirionedd ydyw ei gredoau yntau. Perthyn i ddosparth y "Wlad" yr wyf fi, canys y mae yn dda genyf bobpeth poblogaidd, ac y mae yn hawddach genyf gredu tystiolaethau diymhongar fy nghydwladwyr, na breuddwydion gwagsaw hen fynachod ffug-santeiddiol y Canol Oesau — y mae yn well genyf draddodiadau Cymreig na hanesion Lladin. Gelwir ni gan yr Oraclau "yn werin anwybodus:" gadewch i hyny fod — y mae llawer o ddysg neu rywbeth arall wedi gyru lluaws o honynt hwythau yn dra ynfyd. Barned y darllenydd oddiwrth y ffeithiau canlynol pa un o'r ddwyblaid sydd deilyngaf o ymddiried.


Dyna darddiad yr enw Rhuthyn. Dywed y "Wlad," yn ei dull prydferth ei hun, mai gwraig o'r enw Ruth oedd yn cadw gwesty yn yr amser gynt gerllaw pen y dref hono; a chan fod ymwelyr a theithwyr yn lletya dan ei chronglwyd, ac mai ei thy hi oedd y mwyaf yn y dref (pentref y pryd hwnw), dechreuwyd galw y lle yn "Ruth Inn." Sillebir yr enw gan y "Wlad" a'r Saeson hyd y dydd hwn yn Ruthin; felly nid oes dim cyfnewidiad yn y gair