Tudalen:Cymru fu.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond fod yr n olaf wedi ei gadael allan er mwyn arbed papur wrth ysgrifenu. Lol oedd peth. fel hyn yn nhyb Syr Oracl; yr oedd basder o'r fath yn wrthun i'r eithaf yn ei olwg. Wedi iddo gynhyrfu y llwch oddiar ei lyfrau Lladin, a manwl gyniweirio ynddynt am hen enw y lle, cafodd nad oedd enw yn y byd arno. Pa fodd bynag, darganfyddodd mai Castell Coch yn Ngwernfor y gelwid castell Rhuthyn gynt. Eithafion anmhosibilrwydd fuasai priodoli enw presenol y dref i hen enw ei chastell; ac o ganlyniad, nid oedd dim i'w wneud ond dyfeisio gwreiddyn newydd spon, fel hyn : — Saif prif ranau y dref ar graig o dywod coch neu rhudd. Oddiwrth hyn, medd y Doethawr Oracl, y tyfodd enw y lle yn Rhuddyn; a rhag i bobl foneddigaidd yslefrian wrth leisio y sain feddal dd, a rhag i'r gwyryfon ieuainc gael esgus i lispian, diswyddwyd yr dd, a'i clìyfnither th a deyrnasodd yn Rhuthyn yn ei lle hi.


Dyna Dinbych hefyd, sillebir yr enw hwnw gan un Oracl yn "Dimbach," gan farnu mae yn debyg nad oedd dim bachau pysgota ar werth yno gynt. Oracl arall a'i geilw Dimbech, gan roi ar ddeall nad oedd yno bechod na'i ganlyniadau adfydus. Ond sylwer mor dra rhagorol ydyw syniad y "Wlad" ar darddiad y gair : — -Yr oedd math o ddraig neu sarff asgellog frawychus a elwid Bych, yn llochesu tua Chastell Caledfryn yn Rhos (enw henafol Castell Dinbych), yr hwn a laddai ddyn ac anifail, ac a barai i'r hen dref fod yn annghyfanedd. Ni feiddiai neb a byw fyned yn agos at ffau yr angenfil dinystriol hwn, hyd onid anturiodd un o Salsbris, Lleweni, yr hwn a adwaenid yn mhlith ei gydwladwyr wrth yr enw Syr John y Bodiau, am fod iddo wyth bys a dwy fawd ar bob llaw. Y mae cerflun o hono yn yr Eglwys Wen, gerllaw Dinbych, yn bresenol, a'i ddwylaw yn ateb i'r dysgrifiad uchod. Efe a ornestodd â'r Bych, a bu ymladdfa enbydus rhyngddynt — yr angenfil yn poeri tân, ac â'i gynffon anferth yn gwneud pob ymgais i orthrechu y dewrddyn cyntaf a feiddiodd ei wrthsefyll. Pa fodd bynag, llwyddodd Syr John i blanu ei waewffon o dan ei aden. Syrthiodd y bwystfil ar lawr, a chydag ysgrech ddolefus nes oedd y creigiau amgylchynol yn diaspedain, efe a drengodd. Torodd y gorchfygwr ben y bwystfil, a dygodd ef yn fuddugoliaethus ychydig o'r fan, lle yr oedd lluaws mawr o'i gyfeillion a phobl y dref a'r ardal yn disgwyl yn bryderus am dynged yr ornes; a phan ddaeth i'w golwg, gwaeddodd nerth ei ben, "Dim Bych." Os oes rhyw ddyn nad all weled rheswm mewn peth fel hyn, dywedwch