witho am brynu spectol bren a chwilio trwyddynt am gath ddu mewn tywyllwch. Gyda llaw, oddiar yr hanesyn hwn o eiddo y "Wlad" Gymreig y sylfaenodd y Sais ei chwedl yn nghylch " Siôr a'r Ddraig."
Sylwer eto ar farn y ddwyblaid o barth tarddiad yr enw
Beddgelert. Y Parch. P. B. Williams, mab y diweddar
Barch. Peter Williams (o fendigedig goffadwriaeth), a
ddywedai i'r lle hwnw gael ei enwi oherwydd i ryw hen
feudwy, ar ol ymgilio oddiwrth y byd, ymsefydlu yn y fan,
ac adeiladu bwth; ac yn mhen enyd codwyd eglwys lle y
safai preswylfa y meudwy a galwyd y lle Bwlch Cilfach
Garth. Llygrwyd yr enw yn Bwlch Cilarth, a llygrwyd
y gair yna drachefn yn Bethcelert. Dyna lygriad iawn;
ond y mae yn rhaid iddo fyned trwy un radd arall o
lygredd cyn y cyrhaedda ei berffeithrwydd llygredig
presenol— Beddgelert. Yr hynafiaethydd, W. Williams,
Llandegai, a ddywedai i'r lle gael ei enw oddiwrth St.
Celer, nawddsant Llangeler, Ceredigion. Gyda phob
parch i'r ddau awdurdod blaenorol, rhaid i mi gael tarddiad
eglurach. Barna Oracl arall mai ei nawddseintio a gafodd
y fan ar fynach o'r enw Celert, un o hynafiaid Serigi
Wyddel, yr hwn a breswyliai yn ninas Ffaraon, heb fod
nepell o Beddgelert. "Breuddwyd gwrach yn ol ei hewyllys."
Clustfeinier ar y " Wlad" yn traethu ei llên: —
"Llywelyn Fawr a gyfaneddai yn ynys Môn, ac yr oedd iddo hafotty yn mynyddoedd Eryri, gerllaw y fan y saif yn bresenol bentref Beddgelert, lle y treuliai efe rai wythnosau yn yr haf gyda'r difyrwch o hela iwrchod, ysgyfarnogod, &c. Gan y tywysog hwn yr oedd milgi rhagorol a dderbyniasai efe yn anrheg oddiwrth ei dad- yn-nghyfraith, Ioan, brenin Lloegr, ac enw y ci ydoedd Kilhart. Yn gyffredin dygai Llywelyn ryw ran o'i deulu gydag ef i hafota; a'r tro y cyfeirir ato yma, ei unig blentyn a'i famaeth. Cychwynodd allan i hela un bore, gan adael ei etifedd yn ngofal y forwyn hyd oni ddychwelai. Y famaeth yn llawn chwilfrydedd am weled y golygfeydd swynol oddiamgylch, a adawodd y plentyn yn ei gryd, ac a aeth allan i rodiana [Seisnes oedd hi, meddai Glasynys]. Wedi i Llywelyn a'i gymdeithion ddechreu hela, sylwyd fod Kilhart (neu Celert, yn ol dull pert y Cymro o swnio y gair) yn absenol a synai pawb yn fawr at ei absenoldeb. Pa fodd bynag, dychwelodd Llywelyn a'i osgordd yn gynarach nag arfer y diwrnod hwnw, a chyrhaeddasant yr hafotty o flaen y forwyn; a phan yn ymyl cartref, wela Celert yn orchuddiedig â