Tudalen:Cymru fu.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwaed yn rhedeg i'w gyfarfod, dan ysgwyd ei gynffon, a dangos pob arwydd o lawenydd ar ei ddyfodiad. Prysurodd tua'r tŷ; ac ar ol myned i fewn, O! olygfa dorcalonus! y llawr yn goch gan waed, a'r cryd a'i wyneb yn isaf, heb olwg ar y baban yn un man. Ymsaethodd y drychfeddwl ofnadwy trwy ei enaid fod ei anwylyd wedi ei ladd, ac mai Gelert oedd y llofrudd, ac heb un foment o betrusder, dadweiniodd ei gleddyf, a throchodd ef yn ngwaed calon y milgi diniwaid. Un ddolef, a dyna y creadur ffyddlon yn ysgerbwd. Yna codwyd y cryd, a chafwyd y plentyn yn cysgu yn dawel, a cherllaw hyny genaw blaidd anferth yn furgyn marw ar lawr mewn llyn o waed. Nid oedd gan y tywysog edifarus ddim i'w wneud ond gofidio oherwydd ei fyrbwylldra. Claddwyd Gelert yn barchus mewn llecyn teg gerllaw, a chodwyd tomen o geryg ar ei fedd, ac adwaenir y fan yn awr fel Bedd Gelert. Oddiar yr hanesyn hwn y tarddodd y diarebion Cymreig — "Cyn dial gwybydd yr achos," ac "Ystyr ddwywaith cyn taro unwaith," a "Gwaith byrbwyll nid gwaith ystyrbwyll," a'r wireb, "Mor edifar a'r gŵr a laddes ei filgi."


Dichon fod y tair engraifft yma yn ddigon i brofi trarbagoriaeth y "Wlad" ar "Syr Oracl," ac os na yrr dysg ei berchenog yn ynfyd, ei fod yn lled aml yn ei wneud yn anmhoblogaidd. Yr wyf yn diolch i'r "Wlad" am arbed rhag difancoll luaws o hen hanesion a thraddodiadau gwerthfawr o'r fath yna ag y buasai "Syr Oracl" wedi eu taflu i'r cŵn er's canoedd o flynyddau. Rhwydd hynt i chwithau gyda rhoddi ar bapur yr hyn a fu cyhyd ar Lafar Gwlad. Eich ufuddaf gydwladwr,

Rhys Ddwfn.

DALEN O GOFLYFR Y MARW.

Y MARW y cyfeirir ato yma ydyw y diweddar Mr. Evan Owen (Allen), Rhuthyn. Cawsom y fraint dro yn ol o daflu golwg tros ei weithiau annghyhoeddedig, ac yn ddiarwybod bron glynodd y dyfyniadau canlynol yn ein cof. Peth cyffrous ac effeithiol ydyw edrych ar lawysgrifen y marw — y mae adgofion yn ymrithio gerbron, ac yn personoli yr ymadawedig nes y teimlir fel pe yn mhresenoldeb yspryd. Gyda'r bardd y mae yr effaith a'r cyffro