Tudalen:Cymru fu.djvu/319

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwelsom, arglwydd," ebynt hwy, "fynydd mawr yn cerdded gerllaw y coed, ac ar y mynydd yr oedd esgeir ("ridge") uchel, a llyn o bob tu i'r esgeir. A'r coed, a'r mynydd, a phobpeth o honynt oll yn ymsymud." "Yn wir," ebai yntau, "nid oes neb yma all ddehongli hyn oddigerth Branwen."

Danfonwyd cenadau at Branwen. Arglwyddes, "ebynt hwy, beth debygi di am hyn?" "Gwŷr Ynys y Cedyrn ydynt wedi dyfod trosodd wrth glywed am fy mhoen a'm anmharch." Beth ydynt y coedwig a welir ar v weilgi?" ebynt hwy. "Gwernenau (yards) a hwylbreni llongau," obai hi. "Och," ebynt hwy, "beth oedd y mynydd mawr a welem with ystlys y llongau?" "Bendigaid-Fran, fy mrawd I," ebai hi, "oedd hwnw, yn dyfod i ddwfr bâs, canys nid oes mewn dwr bâs, a'i cynal ef." Beth yw yr esgeir uchel hwnw, a'r llyn ar bob ochr o hono?" Ebai hi. "Llidiog ydyw efe wrth edrych tua'r Ynys; a'i ddau lygaid un o bobtu i'w drwyn ydynt y ddau lyn un o bob tu i'r esgair."

Yna cynullwyd holl ryfelwyr yr Iwerddon ar frys, a chymerwyd cynghor. "Arglwydd," ebynt ei bendefigion wrth Fatholwch, "nid oes gynghor namyn cilio tros y Llinon (afon yn Iwerddon), a chadw yr afon rhyngom ag ef, a thori y bontsydd ar yr afon, canys y mae maen-sugn (loadstone) ar waelod yr afon nas gall na llong na llestr ei chroesi." Felly hwy a groesasant yr afon ac a dorasant y bont.

Bendigaid-Fran a ddaeth i dir gyda glan yr afon a'i lynges gydag ef. "Arglwydd," ebai ei bennaethiaid, "a wyddost ti natur yr afon yma na ddichon dim fyned trosti ac nad oes bont arni? Beth yw dy gynllun yn nghylch pont?" "Nid oes genyf gynllun," ebai yntau, "namyn a fo pen bid pont. Myfi a fyddaf bont." A dyma'r waith gyntaf yr arferwyd y ddiareb, yr hon a arferir yn bresenol. Ac wedi gorwedd o hono ar draws yr afon, gosodwyd clwydi arno, ac aeth ei luoedd trosto.

Ac fel y cyfodai wele genadau oddiwrth Fatholwch yn dyfod ato ac yn cyfarch gwell iddo, ac yn ei anerch yn enw Matholwch ei gyfathrachwr, ac yn ei hysbysu na haeddai efe oddiar ei law namyn da; "canys y mae Matholwch yn rhoddi brenhiniaeth Iwerddon i Wern fab Matholwch, a dy nai dithau fab dy chwaer. A hyn a esyd efe o'th flaen di am y cam a'r dirmyg a wnaethpwyd ar Branwen: ac fel y mynech di, ai yma ai yn Ynys y Cedyrn yr ymdeithia Matholwch.” Ebai Bendigaid-Fran, "Os nad allaf fi fy