Tudalen:Cymru fu.djvu/344

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei ffordd ef; fy Ngheinmygedau, yn gyffredin, ydynt fal ei rai yntau; mawl i Dduw; rhagoroldeb ei air a'i gyfraith; gwynfydedigrwydd y cyfiawn a rodio yn eu hol; addewidion Duw i'r sawl a'i hofnant, a'i carant, ag a ufuddhânt iddo; gwelir rhai o'm Salmau yn athrawiaethol, yn annog cyfiawnder, cariad, trugaredd, addfwynder, gobaith, a chred yn Nuw; yn annog i lynu yn gadarn wrth y gwir, ei ddilyn i ba le bynag y bo'n harwain, a hyny hyd farw drosto, lle bo achos yn gofyn: i ufuddhau ì Dduw yn hytrach nag i ddyn."

Nid ein bwriad oedd ysgrifenu Cofiant Iolo Morganwg, ond cofnodi ychydig o'i hynodrwydd fel dyn a Derwyddfardd

Dilys mai codiad Iolo—a gwnodd
Forganwg o angho',
A hir y cedwir mewn co'—gan ddoethion
Hen gyfrinion a gofir yno.
Iolo fawr oedd haul i feirdd,
Ac i dorf o gadeirfeirdd
Uthredig Athraw ydoedd,
A'i air clwm eu horacl oedd ;
Mewn barddrin a chyfrin chwedl—mae'n amlwg,
IOLO MORGANWG HAUL MAWR Y GENEDL.

CYNDDELW.

NOS GALANGAUAF YN Y CWM

GAN GLASYNYS.

Pwy bynnag a chwenycho weled a chlywed dulliau a chwedlau yr hen bobl dda sydd wedi ein gadael er's llawer oes, deued hefo ni am noson i Gwm Blaen y Glyn. Beth bynnag, yr y'm ni am fyned yno'n brydlon fel y caffom ran o ddifyrwch diniwaid pobl wreiddiol y byd,—pobl nad oes ond un argraffiad ystrydebol o honynt i'w gael ar glawr daear. Amser hyfryd i deithio ydyw diwedd Hydref, os y bydd hi'n sych. Bydd y grug yn gochach, y mynyddoedd yn felynach, y goedwig yn fwy rhwd-goch yr adeg hon nag un amser arall, y planhigfeydd yn llawn dail, er fod llawer wedi cwympo: a'r llwyni derw tewfrig heb ddynoethi eu canghenau esgyrniog, er fod aml i gorwynt cuchiog beiddgar wedi cynnyg eu hysgrialu. Bydd yr afonydd erbyn hyn wedi llenwi eu gwelyau, ac yn