Tudalen:Cymru fu.djvu/362

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn ei dai yn enw Duw.
Nac a ofnith mo'i gefnu,
Da ei ffydd yn y dydd du.—
Os anesmwyth llwyth y'ch llog
Dau waeth cydwybod euog;
Swmbwl dibwl cydwybod
Sydd flin ei feithrin a'i fod.
Cna' oer gwael yn cnoi'r galon,
Heb beidio ond hysio hon.
Ail pryf yn nghanol pren,
Moel dôn yn malu derwen.
Gwna'r tro a weddo i ŵr
Na fydd fawr frwydydd fradwr.
Mados bellach ymadael
Cyn ffoi i'r allt, can' ffarwel;
Rwyf fi yn ofnog o'm gogylch,
Clywaf swn y cŵn o'm cylch.

EINION AP GWALCHMAI A RHIAN Y GLASGOED.—DAMHEG.

EINION ap Gwalchmai ap Meilir o Drefeilir yn Mon, a briodes Angharad ferch Ednyfed Fychan; ac efe un bore teg o haf yn rhodio coedydd Trefeilir canfu Rian dlosgain a thra hardd ei thyfiant, a manylbryd ei hwyneb a'i lliw, yn rhagori ar bob coch a gwyn yn ngwawr bore ddydd a manodmynydd, ac ar bob harddliw yn mlodeu coed a maes a mynydd. Ac yna efe a glywai ferw serch anfeidrol yn ei galon, a myned yn nes ati a wnaeth yn foneddigaidd ei foes; a hithau yn nesau ato yntau; ac efe a gyfarches iddi, a hithau a'i hadgyfarches yntau; a gwedi ymgyfarch tra serchogaidd rhyngddynt, efe a weles ei mwynder a'i thremiadau llygadlon, a gwybu y gallai â hi a fynai, a phorthi trachwant. Ac yna efe a edryches ar ei throed ac wele carnau yn lle traed oedd iddi. Diglloni yn fawr a wnaeth efe, eithr hi a'i hatebes mai ofer oedd iddo ei ddigllondeb, ac ni thalai ronyn iddo. "Rhaid iti," ebai hi, "fy nilyn i lle bena'r elwyf tra pharwyf i'm blodeu, canys hyny y sydd o'r serch fu rhyngom." Yna efea ddeisyfodd arni ro'i cenad iddo fyned i'w dŷ i gymeryd ei genad a rhanu'n iach i Angharad ei wraig, a'i fab Einion. "Myfi,"