Tudalen:Cymru fu.djvu/363

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ebai hi, "a fyddaf gyda thi yn anweledig i bawb onid i ti dy hunan; dos, ymwel a'th wraig a'th fab.". A myned a wnaeth ef, a'r Elylles gydag ef, a phan welodd ef Angharad efe a'i gwelai yn wrach mal un wedi gorheneiddio; ond cof dyddiau a fuont oedd ynddo, a thraserch ati fyth, ond nis gallai ymddatod o'r rhwym oedd arno. "Y mae yn rhaid imi ymadael," ebai ef, "dros amser nas gwn pa hyd â thi, Angharad; ac â thithau, fy mab Einion;" a chydwylaw a wnaethant, a thori modrwy aur rhyngddynt a wnaethant—efe a gedwis un haner, ac Angharad y llall—a chydymganu'n iach a wnaethant, a myned gyda Rhian y Glasgoed a wnaeth ef, ac ni wyddai i b'le, canys hud gadarn oedd arno; ac ni welai le yn y byd, na dyn o'r byd, na pheth o'r byd, pa bynag, yn ei wir wedd a'i liw, ond yr haner modrwy yn unig. Ac wedi bod yn hir o amser, nis gwyddai pa hyd, gyda'r Ellylles, sef Rhian y Glasgoed, efe a fwris olwg un pen bore pan oedd yr haul yn codi ar yr haner modrwy, ac a feddylis ei dodi yn y man anwylat ganddo yn nghylch ei gorph, ac yna ei dodi tan amrant ei lygad. Ac fel yr oedd efe yn ymegnio gwneuthur hyny, efe a welai ŵr mewn gwisg wèn, ac ar farch gwyn manodliw, yn dyfod ato; a'r gŵr hwnw a ofynes iddo pa beth yr ydoedd ef yn ei wneuthur yno, ac efe a ddywed wrtho mai adgofio'n glwyfus am ei briod Angharad yr ydoedd. Chwenychit ti ei gweled," ebai'r Gŵr Gwyn. "Chwenychwn," ebai Einion," yn fwyaf o holl bethau a gwynfydau'r byd." "Os felly," ebe'r Gŵr Gwyn, "esgyn ar y march hwn wrth fy ysgil." A hyny a wnaeth Einion; a chan edrych o'i amgylch, ni welai efe drem yn y byd ar Rian y Glasgoed, sef yr Ellylles ; eithr ol carnau aruthrol eu maint a'u hanferthwch fel ar daith tua'r Gogledd. Pa orbwyll sydd arnat." ebe'r Gŵr Gwyn; ac atebodd Einion ac y dywed oll mal y bu rhyngtho a'r Ellylles. Cymer y ffon wen hon i'th law," ebe'r Gŵr Gwyn, ac Einion a'i cymeres. A'r Gr Gwyn a erchis iddo ddymuno a fynai ac efe a gai ei weled. Y peth cyntaf a ddymunes ef oedd cael gweled Rhian y Glasgoed, canys nid oedd efe hyd yma wedi llwyr ymryddhau o'r hud; ac yna hi a ymddangoses yn widdones, erchyllbryd anferthol ei maint, canmil mwy aflan ei gwedd na'r aflanaf o bethau aflan a welir ar glawr daear. A rhoddi bloedd ofnadwy gan ddychryn a wnaeth Einion. A'r Gŵr Gwyn a fwries ei wisg dros Einion, ac mewn llai na gwingciad y disgynes Einion fal y dymunes ar Gefn Trefeilir, ar ei dŷ ei hunan, lle nid adnabai ef nemawr o ddyn, na neb yntau.