Tudalen:Cymru fu.djvu/364

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr Ellylles gwedi myned oddiwrth Einion ap Gwalchmai, myned a wnaeth hi hyd yn Nhrefeilir, yn rhith gŵr urddasol o bendefig arglwyddaidd breninol, yn hardd a thra chostus ei wisg, ac yn anfeidrol y rhif ar ei aur a'i arian, ac yntau yn mlodeu ei oedran, sef deng mlwydd ar hugain oed; ac efe a ddodes lythyr yn llaw Angharad, ac yn hwnw dywedid fod Einion gwedi marw yn Llychlyn er's mwy na naw mlynedd, ac yna dangos ei aur a'i urddasoldeb i Angharad a wnaeth; a hithau wedi bwrw llawer o'i hiraeth ymaith yn nghyfangoll amser, a wrandewis ar ei lafar serchogaidd ef, a'r hud a syrthwys arni, ac o weled y gwnelid hi yn bendefiges urddasol dros ben, hi a enwis ddydd i ymbriodi ag ef. A bu parotoad mawr o bob hardd a chostus wisgoedd, a bwydydd a diodydd, ac o bob ardderchog o wahoddedigion urddasol, a phob rhagorgamp cerddorion a thant, a phob darpar ac arwest llawenydd. A gwedi gweled o'r pendefig urddasolbryd a theg rhyw delyn harddwych yn ystafell Angharad, efe a fynai ei chanu; a'r telynorion oeddynt yno (goreuon gwlad Cymru) a geisiasant ei chyweiriaw, ac nis gallent. A phan ydoedd pob peth mewn parotoad i fyned i'r Eglwys, fe ddaeth Einion i'r tŷ, ac Angharad a'i gwelai ef yn hen gleiriach gwywllyd blorynwallt yn crynu gan oedran, ac yn wisgedig â charpiau; a hi a ofynes iddo a drothai ef y berw tra pobit y cig. "Gwnaf," ebe ef; ac aeth yn nghyd a'r gwaith a'i ffon wen yn ei law, ar wedd Gŵr yn dwyn ffon fendigaid. A gwedi paratoi ciniaw, a phawb o'r cerddorion yn ffaelu a chyweiriaw'r delyn i Angharad, y codes Einion ac a'i cymerth yn ei law, ac a'i cyweiriodd, ac a chweris arni gainc a garai Angharad, a synu yn anfeidrol a wnaeth hi, a gofyn iddo pwy ydoedd. Yna yr atebodd ef gân ac englyn fel hyn :—

Einion aur galon y'm gelwir—o gylch
Fab Gwalchmai ap Meilir;
Fy hud ehud, bu ohir,
Drwg y nhyb am drigo'n hir.

Pa le y buost ti ?

Yn Nghent, ac yn Ngwent, yn Ngwydd,—yn Mynwy,
Yn Maenol Gorwenydd;
Ac yn Nyffryn Wynn ap Nudd.
Gwel yr aur, gloeyw yw'r arwydd.

A rhoddes iddi'r fodrwy.

Nac edrych, lewyrch goleuwyn—y gwallt
Lle bu gwyllt fy nhrenyn;
Llwyd heb gel lle bu felyn—
Blodeu'r bedd—diwedd pob dyn.