Tudalen:Cymru fu.djvu/369

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tân a rhoi pob peth yn ddel ac yn deidi, cafwyd unawd ar yr ysturmant gan ŵr y tŷ. Er fod pren almon wedi blodeuo ar ei ben er's llawer blwyddyn, ac ôl ewinedd miniog amser ar ei ruddiau; etto chwareuai ei offeryn bach yn dda ddigrifol.—Twt Roli," ebe Modryb Gwen, dyro'r goreu iddi hi bellach; tyr'd am Ddifyrwch Gwyr Dyfi," ebai wrth y Telynor, a deuawd cywrain a gawsom; ac ar ol hyn caed Cydgân: yr ysturmant a'r delyn y crwth a'r glarioned: y ffeiff a thwmbarîn gan Deio Wmffra! Yr oedd y tŷ yn dadsain, a phawb yn gwneyd ei waith fel y dylasai. Ar hyn dyma rywun yn curo yn drws, a phwy oedd yno ond Deio Puw. Hên law digrif iawn. Byddai yn d'od i'r Hafod bob rhyw dair wythnos yn gylch er's cryn ddeugain mlynedd, ac hen fachgen doniol lawen oedd efe hefyd. Medrai adrodd holl chwedlau ysprydion y fro, a chwareu ffidil yn hylaw. Wedi cael tôn ar y ffeiff,—un wyllt—siongc—nwyfus,—dyma modryb Gwen yn gwaeddi yr eiltro, " Roli tyr'd i'r llawr," a'r hên ŵr yn ufuddhau i'r alwad mewn munud; er danghos hyn, dyna fo yn taflu ei ddwy glocsan, ac yn piccio atti hi i agor y ddawns! Yr oedd yno o leiaf saith o honynt wrthi hi yn ysgwyd eu berrau yn hwylus heinyf! Hên ac ieuangc yn ymddifyru gyda'r un ynni ac awydd a'u gilydd! Ar ol cael eu gwala o glettsio eu traed: eisteddwyd wed'yn a chaed cystal dysglaid o dê, ac a dywalltwyd erioed drwy big y tebot! Yn wir yr oedd tê'r Hafod yn dda! Pawb yn un a chyttun heb air garw na golwg sarug! Arol hyn caed canu hefo'r tannau. Pawb yn hyddysg a'r gwaith o'r ieuengaf hyd yr hynaf, ac nid oedd fawr o berygl cael mesglyn allan o'i le yn eu gwaith. Holwyd hwy a fyddent yn arfer cael noson felly yn fynych, a chaed ar ddeall mai dim ond ryw deirgwaith yn yr wythnos! Fel hyn yn swn awen, cân, a thelyn, y mae'r teulu yma'n treulio eu hoes. A thyma beth arall, pan ddaw hi yn amser cadw dyledswydd nid oes neb dwysach a thaerach wrth orseddgrasnaf'ewyrth Rolant pan fydd ar ei liniau;—nac un sydd ryddach" ei chalon, burach ei moes, a glanach ei thafod, na modryb Gwen. Ni ddaw cardottyn byth i'r drws heb gael ei ddiwallu, ni ddaw'r un o blant tlodion y mân deños yno heb gael am ddim caniad o laeth tew à chlewtan o frechdan; yn y gwyliau, llawer dafad dda a rennir yno, a thrwy gydol y flwyddyn, gellir dweydam yr Hafod ħefo'r anfarwol IEUAN BRYDYDD HIR, pan dorres allan fel hyn: