Tudalen:Cymru fu.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LLEN Y FFYNONAU.

YR oedd tair ffynon yn Ngogledd Cymru nodedig am eu teithi cyfareddol, sef Ffynon Tegla, Ffynon Gwenfrewi, a Ffynon Elian. Un o epilion coelgrefydd ac anwybodaeth ydyw priodoli unrhyw rinau goruwchnaturiol i ffynonydd; ac oni buasai fod Pabyddiaeth wedi achlesu yr ofergoel am Ffynon Gwenfrewi, ni chlywsid son am yr ysgymunbeth gwarthus hwn o fewn ein terfynau. Er cyn y diwygiad Protestanaidd dirgel-lynodd Eglwys Rhufain wrth y drychfeddwl o nawdd ac eiriolaeth Gwenfrewi ar a thros bawb ffyddiog a ymofyneut lesâd yn y dwfr elwir ar ei henw; ac yma y bu Pabyddiaeth yn Nghymru fel boncyff, yn llechu fel marw, hyd onid elai rhuthrwyntoedd ei gauaf Protestanaidd heibio. Yn ddiweddar, oherwydd fod awyr Protestaniaeth yn myned yn anmrwd a chlauar, dechreiuodd yr hen foncyff flaendarddu; ac fel y mae yn alarus adrodd, chwenychodd rhai o'n cenedl ei ddail gwenwynig, ac wedi eu bwyta, y maent mor farw i ni, fel cydwladwyr a Christionogion, a phe buasent yn y bedd. Fy nghydgenedl, costiodd y rhyddid gwladol a chrefyddol a feddwn yn ddrud i'n cyndadau, ac a gysgwn ni tra y mae'r gelyn yn ailosod ei gadwynau gormesol ? I lawr a'r mân gecriadau enwadol — i fynu â baner undeb a chariad crefyddol, ac anadled ein Protestaniaeth mor bur nes lladd holl efrau gwenwynig Pabyddiaeth.

FFYNON TEGLA.

Tardda y ffynon hon mewn cors a elwir Gwern Degla, oddeutu dau can' llath oddiwrth eglwys plwyf Llandegla, sir Ddinbych. Yr oedd ei dwfr o dan nawdd a bendith y Santes Tegla, yr hon a argyhoeddwyd gan yr apostol Paul, ac a ddioddefodd ferthyrdod yn Iconium dan deyrnasiad Nero. Nid ymddengys y priodolid unrhyw rinau i'r ffynon hon ond at wella ffitiau, neu fel y gelwir yr anhwyldeb weithiau, Clwyf Tegla, ac yr oedd yn angenrhaid i'r truan claf fyned trwy yseremoniau canlynol cyn derbyn meddyginiaeth :— Dechreuid ar y seremoni wedi machlud haul. Yr oedd yn angenrheidiol i'r dyoddefydd, os gwryw fyddai, gymeryd ceiliog gydag ef— os benyw, iar a gymerai — a'r aderyn hwn a ddygai y claf mewn basged gydag ef yn ei holl symudiadau. Yn gyntaf, efe a gerddai dair gwaith o gwmpas y ffynon tan adrodd Gweddi yr Arglwydd; yna elai i'r fynwent, a cherddai dair gwaith oddeutu yr eglwys drachefn, tan ail-adrodd