Tudalen:Cymru fu.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr un weddi. "Wedi hyn elai i mewn i'r eglwys, gorweddai, yr orchuddiedig â llawrlen neu garped, odditan fwrdd yr allor, hyd doriad y dydd dranoeth, a chanddo Feibl mawr dan ei ben yn lle gobenydd. Gadawai yr aderyn yn rhydd yn yr eglwys, ac wedi iddo offymu tua chwe' cheiniog ar y bwrdd y bu efe yn cysgu tano y noson flaenorol, dychwelai i'w dŷ ac at ei dylwyth. Ond yr oedd un pryder yn aros eto ar ei feddwl pa un ai llwyddianus y ddefod ai peidio, sef, os na byddai i'r aderyn farw yn yr eglwys, aethai ei holl drafferth yn ofer; ac os marw a wnai y pechaberth gwirion, credid bod yr afiechyd wedi ei drosglwyddo iddo ef, a'r clwyfus wedi derbyn ymwared rhagllaw oddiwrth ei wasgfeuon dirdynol. Cyfiawnder â ffydd yr oes bresenol ydyw hysbysu fod yr arferiad ryfedd hon wedi llwyr ddarfod er ei bod ar rai ystyriaethau yn eithaf diniwaid, ac iddi mewn rhai amgylchiadau, trwy ddylanwadu ar feddwl hygoelus y dyoddefydd, fod o les a meddyginiaeth iddo.

FFYNON ELIAN.

Dywed Pennant fod y ffynon hon unwaith yn enwog am wella clefydon; ac y gellid ymgynghori yn fanteisiol trwyddi mewn arwyddion âg Elian ei nawddsant o barth lladradau, a dirgel-lochesfeydd ysbeilwyr a ffoaduriaid drygionus eraill. Pa fodd bynag, ymddengys, trwy ryw law fedrus mewn cyfaredd, fod ei heffeithiau wedi eu trawsnewid o'r nodwedd gwasanaethgar hyny i fod yn niwaid ac yn felldith. Os byddai ar ryw adyn cythreulig eisiau dial mewn rhyw ddull ar ei gyd-ddyn, prysurai tua ffynon Elian, gosodai ei achos gerbron offeiriad dewinol y ffynon, ac yntau am ychydig arian a ffugiai gyflawni amcanion maleisus y dialydd. Gan belled ag yr ydym yn deall. ysgrifenid enw y truan melldigedig ar ddarn o bapur, rhoddid pin ynddo, ac yna teflid ef i'r dwfr; ac o'r funud hono allan, os na ddeuai y truan i gymod a'i ddialydd, poenydid ef â thrueni ac anffawd hyd ddiwedd ei einioes helbulus; eithr os cymerai y cymod hwn le, dyddimid y felldith trwy dalu rhagor o arian i'r dewin. Mae yn ddiameu hefyd na buasai gan ei urddas dewinol unrhyw wrthwynebiad i godi y papuryn o'r dwfr, heb ganiatâd yr hwn a'i hawdurdododd i'w roddi yno, ar dderbyniad swm go hardd o "ddelwau y brenin," gan y blaid arall.

A fu yr ynfydrwydd uchod erioed yn llwyddianus i niweidio rhyw bersonau, sydd ofyniad rhy anhawdd i ni