Tudalen:Cymru fu.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei ateb; ond y mae yn eithaf hysbys na waeth i ddyn mo'r llawer fod dan felldith na chredu ei fod felly; a phan ga'i llawer un ar ddeall ei fod yn y ffyuon, tybiai fod pob-peth. mewn natur a rhagluniaeth yn rhyfela yn ei erbyn. Bu hyn yn achos i ambell dddynan gwangalon roddi ei yspryd i lawr a disgyn i fedd anamserol. Pe buasai rhyw allu yn y moddion yma o felldigo, yr oedd y sawl a wnaent ddefnydd o honynt yn gymaint dynladdwyr ag un drwgweithred a dalodd erioed am ei fai ar y crogben. Ond nid yw yn debygol yr ymddiriedai Duw gyflwr tymorol ei greaduriaid i giwed anfad cyrau ffynon Elian. Bellach y mae yr ofergoel hon hefyd, trwy ddylanwad gwareiddiad a'r Efengyl, wedi ei llwyr ddileu, a'r dewin naill ai oherwydd ad-dynerwch cydwybod, neu oblegyd gwaelder arianol y gorchwyl, wedi troi at ryw ddyledswydd well neu fwy enillgar; ac nid edrychir ar Ffynon Elian ond fel ar ryw ffynon arall, megys

" Ysten Duw i estyn dwr."

FFYNON GWENFREWI

.

Yr oedd Gwenfrewi yn byw yn y 7fed ganrif, ac yn hanu o deulu pendefìaidd. Merch ydoedd i Thewith, boneddwr urddasol a breswyliai yn y gymydogaeth lle y saif Treffynon yn bresenol: ac yr oedd ei mam, Gwenlo, yn hanu o deulu hynafol yn sir Drefaldwyn. Ewythr iddi, frawd i'w mam, ydoedd St. Beimo, mynach a meudwy enwog yn ei ddydd, yr hwn a ymneullduodd i Glynog yn sir Gaernarfon, ac yn ddiweddarach a adeiladodd eglwys yno, ac a sefydlodd fynachdy. Wedi hyny efe a ymwelodd â'i berthynasau yn sir Fflint, a chafodd ddarn o dir at adeiladu eglwys yno hefyd gan ei frawd-yn-nghyfraith, lle yr ymgymerodd efe yn gyfan-gwbl â swydd mynach, ac y cymerth dan ei ofal ei nith Gwenfrewi. Gesyd y Pabyddion hi allan fel gwir eilun prydferthwch personol, ac yn burdeb a sancteiddrwydd wedi ymgnawdoli — ei bywyd wedi ei gyflwyno i weithredoedd da, ac yn ymlochesu rhag surdoes y byd drwgpresenol rhwngmuriau yr abades-dŷ. Y mae nerth ffydd y brodyr hyn yn eithaf hysbys; ac y mae yn ddigon naturiol meddwl y medr yr un dwylaw ag a allant " droi gwir ddwfr yn wir waed " dirawsffurfìo cymeriad menyw ieuanc o fod yn rhinweddol fe ddichon i fod yn berffaith a difai, a myned trwy ryw ffurfìau cyfrin yn mhen ugeiniau o flynyddoedd wedi ei chladdu er mwyn ei sancteiddio.