Tudalen:Cymru fu.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hudodd " prydferthwcn personol" Gwenfrewi serch tywysog ieuanc o'r enw Cradog, mab i'r brenin Alen, ond yr oedd y "sancteiddrwydd" crybwylledig yn rhwystr iddo gael ad-daliad o'r serch hwnw. Ofer fu ei holl ymgeisiadau at enill calon Gwenfrewi — yr oedd hono wedi ei gosod ar wrthddrych uwch na marwol ddyn; ond y mae serch fel yr afon yn enill nerth a gwylltineb trwy rwystrau, neu fel y llysieuyn camomeil, ei wraidd yn dyfnhau ac yn ymledu wrth ei sathru; ac yr oedd serch Cradoc wedi enill y fath nerth trwy ei rwystrau, nes goruwchlywodraethu ar ei reswm, brenin arfaethol yr enaid. Cyfarfyddodd hi wrthi ei hunan un diwrnod, a rhoddodd ei ddymuniadau ger ei bron, mewn dull nad oedd yn hollol gyson â rhinwedd, a hithau mewn dychryn a ymdrechodd ddianc ymaith. Yr oedd y siomiant hwn yn ormod i nwydau y gŵr ieuanc ei oddef — efe a'i hymlidiodd ac a'i goddiweddodd yn mhen y pantle a elwid y pryd hwnw Sychnant — dadweiniodd ei gleddyf, a chydag un ergyd torodd ei phen ymaith. Dialwyd yr adyn yn y fan — tarawyd ef i lawr yn farw, a'r ddaear ddigofus a agorodd ei safn ac a lyncodd ei gorff ysgeler. Dywed un hanesydd fod barn wedi disgyn hyd yn nod ar ei deulu, a'r unig ffordd y celent waredigaeth rhag hyny ydoedd trwy ymweliadau mynych â'r ffynon, neu âg esgyrn y sanctes yn yr Amwythig.

Rholiodd y pen i lawr y llechwedd i'r Sychnant, lle y safai y capel a adeiladwyd gan Beuno Sant, a safodd yn ymyl ei furiau; a'r pryd hyny, o'r fan hono, y ffrydiodd Ffynon Gwenfrewi allan am y waith gyntaf erioed. Y mae y mwswgl oddeutu y llecyn yn beraroglus, ac ar un adeg o'r flwyddyn y mae y ceryg megys yn spotiau o waed, er cof am y dygwyddiad. Cododd St. Beuno y pen oddiar y ddaear, dygodd ef at y corph, asiodd y ddau yn nghyd yn drefnus, ac wedi iddo weddio, ymgododd y lladdedig i fynu yn fyw; ac nid oedd arni unrhyw graith oddigerth rhyw linell wen gul o gwmpas y gwddf yn aros er tystiolaethu am y wyrth ryfeddol.

Nid yw yr hahes yn colli dim o'i deithi dychymygol wrth fyned yn mlaen. Bu Gwenfrewi fyw wedi hyn am bymtheg mlynedd. Tynodd ei hanadl olaf yn y Gwytherin, sir Ddinbych, lle y gorphwysodd ei llwch hyd deyrnasiad Stephan, brenin Lloegr; a'r pryd hwnw, yn nghanol rhialtwch, gweddiau, a defosiynau trystfawr, symudwyd ei rhan farwol i abad-dŷ St. Pedr, yn yr Amwythig. Adgofir ei marwolaeth gyntaf gan eglwys Rhufain ar yr 22ain o Fehefin, a'i hail farwolaeth ar y 3ydd Dachwedd.