Tudalen:Cymru fu.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bedyddiwyd cloch yn yr Amwythig ar ei henw, a chymerid rhan yn y seremoni gan amryw gyfoethogion. Cymerasant oll afael yn y rhaff, enwasant yr offeryn, a'r offeiriad, gan ei thaenellu â dwfr sanctaidd a'i bedyddiodd yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân. Yna gwisgwyd hi â brethyn hardd, a chynaliwyd gwledd fawr, a derbyniodd yr offeiriad lawer o arian ar ran y gloch. Wedi ei bendithio fel hyn, yn enwedig â'r bendithion olaf, yr oedd ei chlul yn abl i lonyddu ystormydd, iachau clefydon, a gyru ymaith ysbrydion drwg. Medr yr offeiriad Pabaidd am arian wneud Gabriel o Beelzebub ei hunan.

Dywed ein hanesydd, fod sancteiddrwydd bywyd Gwenfrewi wedi ei brofi trwy wyrthiau dirif. Yr oedd bron gymaint o rinwedd i'w dderbyn oddiwrth ddyfroedd ei ffynon ag oddiwrth lyn Bethesda gynt; iacheid pob math o anhwylderau. Ar y muriau uwchben y dwfr y mae lluaws o ffyn baglau, hen gadeiriau, &c, wedi eu gadael yno yn dystion gan y rhai a dderbyniasant feddyginiaeth, a'r rhai nad oedd angen arnynt am y cyfryw ategion i ddychwelyd; ond yr ydym yn ofni nad ydyw y rhai hyn yn adlewyrchu nemawr mwy o glod ar "sancteiddwydd" Gwenfrewi nag ar chwedlau pen bawd yr hen Fodryb Gwen o Aberdaron. Ymddengys hefyd fod y sanctes yn meddu ysbryd llawer eangach a haelfrydicach na'r gweddill o'i chydgrefyddwyr, canys yr oedd ei charedigrwydd iachaol yr un mor agored i hereticiaid Protestanaidd ag i'r Pabyddion uniongred.

Y mae yn ddiameu fod lluaws o elfenau llesol yn perthyn i'r dwfr oer hwn fel i lawer o ddyfroedd eraill; a dywed pawb ond y sawl sydd wedi eu dallu â i'hagfarn ac anwybodaeth, nad oes dim rhagoriaeth goruwchnaturiol ar ei gyful. Nid ar genedl y Gymry y mae y cyfrifoldeb fod yr ofergoel hon yn fyw yn bresenol: o'i rhan hi buasai wedi ei chladdu er's blynyddau yn medd gwrach y rhibin, bwciod y nos, ac adar y cyrff. Gwyddelod a Saeson Pabyddol Lancashire ydynt yr unig ddosparth bron a ymwelent â'r lle ar ddybenion hygoelus crefyddol; ac nid anfynych, hyd yn nod yn yr oes oleuedig hon, y gwelir hwynt hyd yr ên yn y dwfr yn gweddio, yn ymffurfio, ac yn dwyn eu penydiau. Y mae llysieuwyr enwog wedi profi tu hwnt i bob anmheuaeth nad ydyw y mwswgl peraroglus a'r ystaeniau gwaedlyd ond pethau digon cyffredin. Ceir y cyfryw fwswgl gerllaw amryw ffynonau yn Ngogledd Cymru; ac am y tybiedig waed, y mae yn bur gyffredin yn Lapland, ac i'w gael mewn manau yn Nghymru.