Tudalen:Cymru fu.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Math o ysbwng melfedaidd ydyw. Geilw Linaeus ef Byssus Jolithius.

Dichon fod ffynonau eraill yn y Dywysogaeth â thraddodiadau lled hynod yn eu cylch; ond tybiwn fod y tair y sylwasom arnynt, yn eu gwahanol nodweddau, yn cynddrychioli y gweddill.

TWM GELWYDD TEG

Twm ab Ifan ab Rhys, neu fel y gelwid ef yn gyffredin Twm Gelwydd Teg, ydoedd fab i Ieuan ab Rhys, yr hwn oedd fynach yn Margam, ac a drowyd allan o'r fynachlog oherwydd ei fod yn Lolardaidd ei farn. Nid yn ol ei ystyr presenol y deallid y gair celwydd gynt. Dywed y Dr. Tregelles yn y Brython tudal. 155, cyf. iv.,[1] fod "y gair celwydd yn tarddu oddiwrth celu a gwydd, sef gwybodaeth ddirgel, a bod y gair celfydd o'r un tarddiad;" ac felly yr oedd llysenw Twm ab Ifan yn taflu mwy o glod arno nag anfri. Bu Twm yntau hefyd yn cyflawni rhyw swydd yn mynachlog Margam; a syrthiodd hefyd i'r un dynged a'i dad. Trowyd ef oddiyno, a bu yn ngharchar amryw weithiau yn nghastell Cynffig, gan Syr Matthew Cradoc, yr hwn a'i rhyddhaodd o'r diwedd, ac a fu haelionus tuag ato. Am ysbaid wedi hyn, bu ein harwr yn gwasanaethu yn mhlwf Margam a Llangynwyd, nes iddo syrthio i ryw feddyliau annghyffredin, yr hyn a barodd i Syr George Herbert eilwaith ei garcharu; ac wedi ei ryddhau y tro hwn, ni wnaeth efe nemawr iawn ond rhodio'r wlad fel cardotyn, dyrnu rhyw ychydig yma ac acw, gwneud cwndidau duwiol, a phroffwydo llawer o bethau hynod, ac am hyn y gelwid ef "Twm Gelwydd Teg."

Yr oedd Twm wedi dechreu proffwydo cyn iddo gael ei garcharu gan Syr George Herbert, a hyn, meddir, fu yr achos o'i garchariad. Wedi geni etifedd i Syr George,cynaliwyd gwledd a rhialtwch mawr ar ei fedyddiad, gan bedoli y ceffylau âg arian, a llawer o rwysgfawredd costus cyffelyb. Pan welodd Twm hyn, dywedai : — " Ha ! dyma rwysg a balchder mawr wrth fedyddio plentyn a aned i'w grogi wrth linyn ei dalaith." Cymerwyd ef i fynu yn ddioed, a bwriwyd ef i garchar yn nghastell Cynffìg. Rhoddwyd y plentyn yn ngofal mamaeth, a gorchymyn

  1. Y Brython Ebrill 1860 t155