Tudalen:Cymru fu.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

caeth arni i'w wylied yn ddyfal ddydd a nos. Pa fodd bynag, yn mhen amser, cyrhaeddodd y sŵn i glustiau Syr Gíeorge "fod yr ymgrafu ar y llances, yr hyn a barodd i'w foneddiges ac yntau anfon am dani yn ddioed i'r neuadd, modd y gwypent a oedd y peth yn wir ai peidio. Wedi cael ar ddeall mai celwydd oedd yr ystori, dychwelasant gyda hi i'r ystafell fagu, a'r peth cyntaf a ganfyddent ar ôl myned i mewn ydoedd y plentyn wedi rhoddi ei ddwylaw dan linyn ei dalaith, ac wedi eu hymddyrysu yn y fath fodd, nes tagu a marw o hono mewn canlyniad; neu fel y gellid dywedyd, wedi " ymgrogi wrth linyn ei dalaith. "Yna danfonwyd yn heinif ddigon i ryddhau Twm o'r carchar; ac wrth nad oedd cosp a charchar yn tycio i ladd cyflawniad ei broffwydoliaethau, rhoddodd y barwnig arian iddo a phob croesaw.

Un tro arall yr oedd efe yn dyrnu mewn ysgubor, a daeth rhyw lanc heibio ac a'i cyfarchodd, " Wel, Twm Gelwydd Teg, pa newydd sydd genyt ti heddyw ?" " Hyn," ebai Twn, "ti a fyddi marw o dri angau cyn y nos heno." " Ha ! Ha !" ebai y llanc, " nid all neb farw ond o un angau;" ac ymaith âg ef dan chwerthin. Yn nghorph y dydd, aeth y llanc i ben pren mawr ar geulan afon i dynu nyth barcutan, a phan roddodd ei law yn y njth., rhwygwyd hi gan neidr a gludwyd yno gan yr aderyn i'w gywion. Parodd hyn iddo golli ei afael a chwympo, yn gyntaf ar gainc fawr o'r bren, a thori ei wddf; ac oddiyno drachefn syrthiodd i'r afon ddofn islaw. Trwy hyn cyarfyddodd â thri angau, sef ei rwygo gan Neidr, tori ei wddf, a boddi.

GWYLLIAID COCHION MAWDDWY

.

TUA chanol yr 16eg ganrif, yr oedd haid o ddrelgwn lladronllyd a llofruddiog yn crwydro ac yn ysglyfaethu yn nghymydogaeth Dinas Mawddwy, a adnabyddid wrth yr enw " Gwylliaid Cochion Mawddwy," neu "Gwylliaid y Dugoed." Lladron pen ffordd oeddynt, o'r rhyw fwyaf trwsgl a barbaraidd; dyhirod ysgymunedig o'u bro eu hunain, wedi dewis y lle anial hwn i ddwyn yn mlaen eu gweithredoedd ysgeler. Barnai Pennant mai gwehilion anfad y rhyfel cartrefol rhwng York a Lancaster oeddynt, wedi eu gorfodi, pan wnaed heddwch, i ddewis maes