Tudalen:Cymru fu.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

newydd, er mwyn byw ar eiddo pobl eraill. Dysgwyd brodorion y parthau hyny yn fuan i'w hofni a'u hymogelyd; dygent arfau gyda hwynt pan elent oddicartref, a gosodent bladuriau, ac offerynau miniog eraill, yn eu simneiau i'w lluddias rhag dyfod i'w haneddau trwy y llwybr hudduglyd hwnw. Cymaint ydoedd grymusder, rhif, a threfn y " Gwylliaid," fel yr ymffurfiasent yn gorfforiaeth rheolaidd, a chanddynt ddeddfau yn eu mysg eu hunain, a phenaeth neu arweinydd yn eu llywodraethu. Gyrent ddeadelloedd cyfain o anifeiliaid oddiar faesydd yr amaethwyr i'w llochesfeydd yn y coedydd a'r mynyddau yn llygad haul ganol dydd; ac os byddai i rhyw ddyn neu ddynes fod mor anffodus a syrthio i'w crafangau, ni ollyngid hwynt yn rhyddion heb dalu llawer iawn o arian. Pa fodd bynag, tyfodd eu hesgelerderau i'r fath raddau nes dwyn dialedd ymarhous y wladwriaeth arnynt, (ymarhous yn yr oes hono,) a phenderfynwyd eu cospi â llaw drom. Apwyntiwyd Syr John Wyn ab Meredydd, o Wydir, a LewisOwen, un o farwniaid trysorlys Gwynedd, i ddwyn hyn oddiamgylch. Y ddau foneddwr a gasglasant fyddin o wŷr arfog, ac ar nos Nadolig llwyddasant i ddal tua chant o'r "Gwylliaid," llawer o ba rai a alltudiwyd o'r fangre, ac eraill a grogwyd. Yn mhlith y rhai a dderbyniasant y ddedfryd olaf, yr oedd dau frawd, y rhai a ddeisyfasant yn daer ar Lewis Owen am bardwn. Yntau a'u nacâodd; a'u mam mewn cynddaredd a ddywedodd wrth y barwn gan noethi ei mynwes, "Y mae y bronau hyn wedi maethu rhai a ddialant waed eu dau frawd, ac a olchant eu dwylaw yn ngwaed dy galon di."

Yr oedd y giwed mileinig a weddilliwyd o'r ddalfa nos Nadolig wedi penderfynu ar ddialedd, a buan y cawsant gyfleusdra i roddi eu penderfyniad cythreulig mewn grym. Clywsant fod y barwn i eistedd yn mrawdlys sir Drefaldwym, ac yr oedd ei ffordd tuag yno yn gul, ac yn arwain trwy goed tywyll a chauadfrig. Bwriasant amryw brennau i lawr nes cau y ffordd i fynu, er mwyn gwneud ei ddiangfa yn anhawddach. Pan ddaeth efe i olwg y rhwystr hwn, ei osgordd-weision a fachogasant yn mlaen er ei symud, eithr cyfarfyddasant â'r fath gawod a saethau oddiwrth y gelynion a lechent yn y prysglwyni gerllaw, nes y ffoesant yn ol am eu bywydau. Y Gwylliaid a ymlidiasant y rhai hyn hyd oni ddaethont at y barwn, ac yna ymosodasant arno ef a'i fab-yn-nghyfraith, John Wyn o'r Ceiswyn, y rhai a amddiffynasant eu hunain mor lew a gwrol ag yr oedd yn bosibl i ddynion anmharod wneud. Tynodd