Tudalen:Cymru fu.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Lewis Owen un saeth o'i wyneb, a thorodd hi yn ei haner; ond yr oedd y gelynion yn rhy luosog, a'u holl nwydau barbaraidd wedi meddwi ar ddialedd; ac o'r diwedd efe a syrthiodd, a dim llai na deg-ar-ugain o saethau, fel cenadon angau, yn glynu yn ei gorph. Gadawsant ef ar lawr yn farw yn ei waed. Eithr wedi myned o honynt oddeutu chwarter milltir oddiwrth y fan, meibion yr hen wrach gynddeiriog hono a gofiasant fygythiad eu mam, a ddychwelasant at y corph, a golchasant eu dwylaw llofruddiog yn ngwaed y Barwn Owen. Bu llofruddiad y Barwn yn achlysur i lwyryr ddinystrio "Gwylliaid Cochion Mawddwy;" gweinyddwyd cyfiawnder llymaf y gyfraith arnynt; llawer o honynt fuont feirw fel aderyn ar y "pren;" ac eraill a ymlidiwyd o'r wlad, byth i ddychwelyd mwyach; diwreiddiwyd hwy a'u hliogaeth mor llwyr, fel nad oes un sir yn Mhrydain mor lân oddiwrth ladron a llofruddion a sir onest a rhinweddol Meirionydd — sir y menyg gwynion, a'r dim troseddau.

SYR HYWEL AB HUW.

(CHWEDL ODDIAR LAFAR GWLAD.)

Yn nghwr eithaf cantref Clwyd y preswyliai gŵr o'r enw Syr Hy wel ab Huw, a chanddo yn ei feddiant dri o anifeiliaid pyniog. Prif lafur y rhai hyn ydoedd cario tanwydd i gynesu aelwydydd Syr Hywel a'i gymydogion. Gelwid un o honynt, oherwydd cryfder ei ên, yn Derby; a'r llall yn Lion, am fod blew hirion yn tyfu trosto; a'r olaf a elwid Cwta, am i ryw adyn mewn malais dori'r rhan fwyaf o'i gynflfon ymaith. I Syr Hywel hefyd yr oedd amryw feibion, y rhai a gymerent ofal ei ddâ, 'trwy eu llwytho a'u llywodraethu â phastwn a hoelen flaenllem yn "un pen iddo. Na thybied neb fod hon yn swydd ddiraddiol i blant "Syr," canys credai y Syr yma mai y ddysg werth fawrocaf i blant ydoedd dysgu gweithio.

Yr oedd ystâd Syr Hywel yn hir iawn. Sicrhaodd "oraclau" yr ardal ei bod amryw filldiroedd o hyd; dywedai "doethorion" ei bod yn mhell tros gan' milltir;.ond credai y "wlad" yn ddiysgog ei bod yn cyrhaedd o fôr i fôr; ac er fod y dyb olaf yn swnio braidd yn rhy "gref," yr ydym yn tueddu i'w chredu o flaen y lleill. Y