Tudalen:Cymru fu.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae yn ddigon naturiol casglu nad oedd Syr Hywel yn bersonol gydnabyddus ond â rhan fechan iawn o etifeddiaeth mor eang; ac o fawreddigrwydd ei galon, gadawai y gweddill at wasanaeth y cyhoedd. Gweddus i ni, pa fodd bynag, hysbysu nad oedd Ued ei ystâd yn gyfartal à'i hỳd, canys oddeutu deg neu ddeuddeg llath oedd ei lled cyffredinol, ac mewn rhai manau gellid myned ar ei thraws ar bedwar cam. Pan ddygwyddai fod tir yr amaethwyr yn ymylu ar yr etifeddiaeth yma, eu dyledswydd hwy ydoedd cadw y cloddiau a'r gwrychoedd yn gyfain (neu gymeryd y canlyniadau), ac fel ad-daliad gymwynasgar am hyny byddai Syr Hywel yn caniatau iddynt hwy a'u teuluoedd y rhyddid o Iwybro ar hyd canol yr ystâd, a dwyn gyda hwynt, os mynent, eu cerbydau, a'u gwartheg, a'u meirch, a phob rhyw eiddo symudadwy arall. Yr oedd y fraint hon at wasanaeth y cyhoedd yn ddiwahaniaeth, a mawr y cyfleusderau a dderbynient trwyddi.

Rholyn o ddyn byr, llydan, tagellog, oedd Syr Hywel, a chanddo wallt coch, tase fo'n waeth o ran hyny, ei drwyn yn nefoedd-gyfeiriol, ac un foch yn dra chwyddedig beunydd oherwydd rhyw ddrwg oedd rhyngddi a'r danedd; ac mor greulon oedd ef fel ysmygwr, nes y sicrhaodd un doethawr " iddo gael ei eni a'i bibell yn ei ben." Yn ei wisg yr oedd yn hollol ddifalch — brethyn cartref oedd ei deunydd, wedi ei goreuro gyda llaid a llwch, a thyllau yn y ddau benelin, ac o dan y ddwy gesail, er mwyn i'r awyr 'gael myn'd i mewn. Tyfodd yn llydan, a magodd dagell, wrth fwyta uwd a llaeth, ac wrth son am gig.

Yr oedd palas Syr Hywel yn sefyll ar lechwedd heulog, a phâr o risiau yn arwain ato, fel pe buasai yn villa ddwyreiniol. O hono ceid y golygfeydd eangaf ar y dyffryn prydferth a ymledai o'i flaen, ac ynddo ceid engraifft gy ir o ddodrefn ein cenedl ddwy ganrif yn ol — yr hen droell fawr a bach, y 'stolion trithroed a'r byrddau derw trymion, o dan eu llwch cysegredig henafol, a buasai y deuluyddes yn ei ystyried yn bechod mawr symud llychyn o'r cyfryw. Tuhwnt i'r dyffryn, safai y Foel Fama fel cadfridog galluog yn ei wylio, a'r moelydd cylchynol fel is-swyddogion yn disgwyl am ei orchymyn. Mewn cyfeiriad arall, yr oedd yr olygfa yn llawer eangach, ymestynai ganoedd o filldiroedd gerbron y llygaid, ac yr oedd syllu arni yn ddigon i wneud bardd o delpyn o bridd. Heblaw ffenestri yn ystlysau ei balas, yr oedd gan Syr Hywel dyllau hefyd yn y tô, fel y gallai weled y blaned Jupiter oddiar wastad ei gefn yn ei wely.