Tudalen:Cymru fu.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eithr yn ffurf meddwl Syr Hywel yr oedd ei brif hynodrwydd yn gorwedd. Yr oedd yn ostyngedig iawn; ymgomiai gyda'r amaethwr distadlaf, a byddai yn iechyd i'r meddwl isel sylwi arno yn mharlwr y "Bedol" ddiwrnod marchnad yn cysuro yr amaethwyr ddygwyddent fod yno, ac yn tywallt olew cydymdeimlad i friwiau calon yr amaethwyr aflwyddianus. "Wel, y mae hi yn galed arnom ni y ffarmwrs yn awr; ond hi ddaw yn well toc," oedd ei eiriau; ac yna efe a gymerai afael yn holl symud- iadau y byd gwleidiadol, ac a'u gwasgai fel swp o rawnwin, gan dynu casgliadau cysurlawn (megys gwin) ohonynt. Crybwyllasom am ei gymwynasgarwch yn caniatáu i'r cyhoedd lwybro hyd ei dir, ond yr oedd gwrthgyferbyniad rhyfedd rhwng hyn y a'i ymddygiadau dan amgylchiadau eraill. Nid oes ar gael un traddodiad ddarfod iddo erioed roddi elusen i'r tlawd, eithr yn fynychaf gwgai arno; ac mewn dull arglwyddaidd, perffaith gyson â'i urddas ef, gorchymynai iddo brysuro o'i wyddfod. Y gwir am dani ydoedd, ystyriai efe dlodi yn bechod, ac fel y cyfryw cymerai bob cyfleusdra i ysggynygu danedd', arno. Credai yn ddiysgog yn ngallu dyn; mai diogi: ydyw tad tlodi; a'r dyn tlawd yn unig a gyfrifai efe yn bechadurus.

Dyna nodweddiad Syr Hywel fel y mae ar Lafar Gwlad yn y cwr hwnw, ac oddiar yr un awdurdod yr ydym eto yn croniclo y dygwyddiad anarferol a ganlyn mewn cy sylltiad â'i ddâ pyniog : —

Yr oedd natur yn swrth ymollwng i freichiau y nos, a holl gôr y goedwig wedi rhoddi heibio eu telynau, oddigerth y ddyllhuan, telyn pa un, gyda llaw, oedd yn warthus allan o gywair, tra y tynai un o weision Syr Hywel yr ystrodur oddiar gefn cramenllyd Darbi, a gwas arall a ddatodai genglau Cwta, ac ar ol hyny a dynai y ffrwyn o ben ystyfnig Lion, ac yna gollyngasant hwynt i, barc hirfaith eu meistr i bori ac i orphwys tan y bore. Dygwyddai y parc yr adeg yma fod yn lled Iwm a diborfa; a'r hwsmyn, fel gweision da, yn cydymdeimlo â gwrth ddrychau eu gofal, a benderfynasant wneud adwy yn ngwrych cae un o'r cymydogion, modd y gallai yr anlfeiliaid gael tamaid anmheuthyn y noson hono. Yn y cae hwn yr oedd tas o wair wedi ei thori a'i thori nes myned o honi yn gilcyn. Ni ddibrisiodd yr anifeillaid y cynyg haelionus a osodwyd ger eu bronau, a phrysurasant i dori eu hangenion. Bore dranoeth, aeth y ddau was i ymofyn am danynt