Tudalen:Cymru fu.djvu/407

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i Owain, "Y mae yn amser i ti fod yn llawen," ebai Owain. Duw a wyr," ebai'r iarll," nad wrthyt ti yr ydym ni yn drist: namyn dyfod tristwchi'n gofal." "Beth yw hyny?" ebai Owain, " Dau fab oedd im', a myned a wnaethant ddoe i'r mynydd i hela. Yno y unae anghenfil, a lladd dynion a wna, a'u hysu; ac efe a ddaliodd fy meibion. Ac yforu y mae'r amser iddo ddyfod yma, ac oni roddaf fi y forwyn hon iddo, efe a ladd fy meibion yn fy ngwydd. Llun dyn sydd iddo, er nad ydyw efe lai na chawr.

"Diau," ebai Owain, "trist yw hyny; a pha un a wnei dithau" Duw a wyr," ebai'r iarll, "fod yn well genyf iddo ddyfetha fy meibion, a gafodd efe o'm hanfodd, na rhoddi fy merch iddo, o'm bodd, i'w llygru a'i dyfetha." Ac ymddiddan a wnaethant am bethau eraill.

Ac yno y bu Owain y noson hono. A bore dranoeth, hwy a glywent dwrf anfeidrol ei faint; sef twrf y gwr mawr yn dyfod, a'r ddau fab ganddo. A'r iarll a fynai gadw y Gaer rhagddo, a rhyddhau ei ddau fab. Yna Owain a ymarfogodd ac a aeth allan i ymladd â'r cawr; a'r llew a'i canlynodd. A phan weles y cawr Owain yn arfog, efe a gyrchodd tuag ato, ac ymladd ag ef; a gwell o lawer yr ymladdai y llew a'r gwr mawr nag Owain. Ac ebai y gŵr wrth Owain, "Ni byddai gyfyng arnaf ymladd gyda thi pe na byddai am yr anifail yna sydd gyda thi." Yna Owain a fwriodd y llew i'r Gaer, ac a gauodd y porth Ac a ddychwelodd i ymladd â'r gwr mawr, fel o'r blaen. A'r llew, yn clywed fod Owain yn cael y gwaethaf, a roddodd ddisgrech uchel, ac a ddringodd i fynu ar neuadd yr iarll, ac oddiar y neuadd ar y Gaer, ac oddiar y gaer efe a neidiodd onid oedd efe gydag Owain. A'r llew a roddodd ddymnod a'i balf i'r gŵr mawr onid oedd ei balf trwy bleth y ddwy glun, nes y gwelid ei ymysgaroedd yn llithraw allan. A'r cawr a syrthiodd yn farw, ac yna Owain a roddes ei ddau fab i'r iarll.

A'r iarll a wahoddodd Owain i aros yno. Eithr nis mynai efe, namyn dyfod rhagddo i'r ddol yr oedd Luned ynddi. Ac efe a welai yno dân mawr yn cyneu; a dau was hardd pengrych wineu yn myned â'r forwyn i'w bwrw i'r tân. Yntau a ofynodd iddynt pa beth a fynent â'r forwyn. A datgan yr amod a wnaethant iddo fel y datganasai y forwyn y nos cynt." Owain ni's gwaredodd hi; ninau a'i llosgwn hi." "Diau," ebai Owain, "marchog da oedd hwnw; a diau pe gwypai efe am gyfyngder y forwyn y deuai efe i'w hamddiffyn. Ond os cymerwch