Tudalen:Cymru fu.djvu/416

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fy egwyddor I ar y pwnc ydyw yr hen ddiareb, "A'm caro I, cared fy nghi." Yr oedd rhyw bethau eraill o gylch y teulu hwn na waeth imi heb eu henwi, a barent i mi benderfynu mai dyma y tro olaf y lletywn tan y gronglwyd hono. Beth bynag fe ddaeth amser gwely, a digiwyd fi yn mhellach. Yr oedd Pero, fel y crybwyllais, er mwyn diogelwch fy arian, yn arfer cysgu wrth draed fy ngwely. Ac fel yr oeddwn yn dringo tuag at fy ystafell, a'r ci wrth fy sawdl, dyma waedd o'r tu ol imi yn gofyn, "Os oedd y bwystfil hwnw i gael rhan o'm gwely?" ac yn dymuno fy hysbysu yn y dull mwyaf moesgar" Nad oedd gwelyau wedi eu bwriadu i gwn." Atebais inau yn lled sychlyd nad oeddwn yn bwriadu i'w gwely gael yr anrhydedd o gynal esgyrn lluddedig y ci; ond fod genyf y fath werth arno fel nas goddefwn iddo fod yn mhellach oddiwrthyf na'r llawr wrth draed fy ngwely. Grwgnachai hithau rywbeth rhwng ei dannedd nas gwyddwn ac nas maliwn lawer pa beth. Wedi cyrhaedd fy ystafell, a dodi fy eiddo mewn man dyogel, sef yn fy hosan a hono wedi ei rhwynno am fy nghanol, ymofynais am gwsg i'm hamrantau; ond cwsg d'ai meddyliau gwibiog, ac amheuon ac ofnau. Meddyliwn yn nghyntaf nad pobl garedig oedd y bobl yr oeddwn tan eu cronglwyd, meddyliwn yn ail fod rhywbeth yn amheus yn eu hymddygiad at Pero, yn enwedig yn eu gwrthwynebiad iddo ddyfod i'r un ystafell i orphwys â mi; yna daeth i'm cof luaws o chwedlau a glywswn pan yn hogyn am borthmyn mewn tai yn cael eu hyspeilio, eu lladd, eu darnio, ac yn eu claddu mewn calch o tan gareg yr aelwyd. Bum fel hyn yn magu nadrodd yn fy mynwes fy hun, hyd oni chlywais swn y troed olaf yn darfod oddi ar y grisiau, ac hyd oni chredwn beth bynag fy mod yn clywed dau neu dri yn chwyrnu yn braf o'r ystafelloedd eraill. Yna syrthiais yn ddiarwybod i gwsg trwm o ba un ni ddeffroais am rai oriau. Eithr pan ddeffroais, o ddeffroad! na byddo imi ddeffro eto byth yn y dull hwnw. Yr oedd Pero wrth y drws, yn cyfarth ac yn awphio fel peth cynddeiriog. Rhuthrais inau tua'r un lle a gwelwn oleuni yn myned heibio ol a blaen, a chlywn swn siarad uchel; ond yr oedd yn anmhosibl deall beth a ddywedid gan mor ffyrnig y cyfarthai'r ci. Wedi cael ganddo ostegu ychydig, clywn rhyw eiriau tebyg i "y mae'r ci mileinig yna wedi ei ddychryn o;"—llusgais i y ddwy gadair at y drws gan wneud hwnw mor gadarn ag oedd modd; gwrandewais drachefn, "y mae yn debyg y buasai yn well ganddo fod heb y ci heno :" lusgais y gwely hefyd at