Tudalen:Cymru fu.djvu/488

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y plant yn fwnau gwerthfawr oll. Pan oedd yno, addawodd beidio byth myned oddiwrthynt, ac byddai mwy fel un o honynt hwy eu hunain. Ond cododd rywbryd awydd arno am weled ei deulu am unwaith, a phenderfynodd dori ei flys, a dechreuodd hel pethau at eu gilydd gogyfer â'r daith.

Cymerth lawer byd o eiddo, ac ymaith ag ef am wlad ei enedigaeth: yr oedd pawb yn sôn an Elfod ar ol ei ddyfod: ond ni fynai ef ddweyd yn mha le y bu. Dywedodd, fodd bynag, wrth ei fam, fod yno ddarnau o arian ac aur fel ceryg; a chynghorai hithau iddo dd'od yno drachefn a pheli aur, a lympiau arian. Aeth yntau yn ol gyda'r bwriad hwnw, ond methodd yn glir faes a chael hyd i'r twll, a thra bu ef allan daeth dau ddyn i chwilio am dano, ar gefn merlynod gwynion: ac aethant a'i hudlath o'r tŷ, oblegyd pe buasai ei ffon wen ganddo, medrasai gael gafael ar y ffordd i lawr: ond gan iddo golli hono, ffaeliodd byth a chael gafael ar y twll.

Ar ol hyn, rhoes ei fywyd ar bethau dwyfol, ac aeth i'r Fynachlog i arwedd bywyd crefyddol. Urddwyd ef yn Offeiriad, a bu yn ŵr cymhwys a duwiol dros ystod ei oes, ac nid aeth ei feddwl fyth oddiar y golygfeydd a'r pethau a welodd ac a ddysgodd, yn y wlad isod, yn mysg y Tylwyth Teg. Yma y terfyn chwedl Elfod, a alwyd tua phen olaf ei oes, Elfod Offeiriad.

LLAM Y TRWSGL.

Yr oedd clobyn o gawr esgyrniog yn byw yn Nghwm Trwsgl. Byddai yn arfer myned i garu i'r Hafod Wydyr; ond nid oedd teulu'r ferch yn rhyw fodlon iawn i'r garwriaeth. Er hyny talu ymweliadau mynych a wnai y cawr er gwaethaf pob anhwylusdod. Ni ddywedir pa deimladau a achlesid gan y ferch; ond tebygol fod yno "dalu'r echwyn adref." Un noswaith, penderfynodd gwŷr y Nant wneud ymgais i'w ddal, ond rhedodd y cawr ymaith o'u blaenau, a llamodd o ben craig uchel nes yr oedd yr ochr arall, ac y mae ol ei droed yn glewt yno fyth : ond druan gŵr, cwympodd yn wysg ei gefn, a syrthiodd yn un gledren nes yr oedd fel pont ar draws yr afon. Fyth wedi hyn galwyd y lle yn "Llam y Trwsgl," a'r cwm yr ochr arall i'r Nant yn "Gwm Trwsgl," oherwydd y digwyddiad annghysurus a grybwyllwyd.

Y TYLWYTH TEG

PRIF le y Tylwyth Teg ydoedd Cwm Llan, a byddai