Tudalen:Cymru fu.djvu/489

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bugeiliaid Hafod Llan yn eu gweled beunydd yn yr oesoedd ffyddiog sydd wedi diflanu. Unwaith, ar brydnawngwaith niwliog, yr oedd un o honynt rywdro wedi bod yn chwilio am ddefaid yn ochr Nant y Bettws. Pan wedi croesi Bwlch Cwm Llan, ac yn brysio'n ffwdanus i lawr, gwelai beth dirifedi o bobl bach, yn canu ac yn dawnsio yn hoenus ysgafndroed, a'r merched tlysaf a welsai erioed yn unlle, yn parotoi gwledd. Aeth atynt a chafodd ran o'u danteithion, a thybiai na phrofasai yn ei oes ddim byd yn eilfydd i'w seigiau. Pan ddaeth dechreunos lledasant eu pebyll, ac ni welodd y dyn y fath harddwch a chywreindeb yn ei einioes. Yr oeddynt yn rhoi iddo wely esmwyth o fan-blu tyner, a chynfasau o'r lliain meinaf; aeth yntau i'w orphwysfa mor gymenllyd a phe buasai yn dywysog. Ond bore dranoeth, dyn a'i catto, ar ol yr holl rialtwch â rhith ysplander, agorodd y truan ei lygaid, ac nid oedd ei wely yn ddim ond llwyn llafrwyn, na'i obenydd ond twmpath mwswg. Ond er hyny, cafodd lawer o arian gleision yn ei esgidiau: a chafodd ar ol hyn am hir amser ddernyn bob wythnos o arian bâth rhwng dwy gareg yn ymyl y lle y bu'n cysgu. Ond, fe ddywedodd ryw ddiwrnod wrth gyfaill iddo ei gyfrin yn nghylch yr arian, ac ni cha'dd ddim byth wed'yn.

Yr oedd un arall, rywbryd yn anos yn Nghwm Llan, a chlywai ryw rydwst mewn agen craig. Troes i edrych pa beth oedd yno, a chafodd allan fod rhyw greadur yno yn wylo yn hidl. Aeth i'r fan a'r lle a thynodd enithig allan, ond cyn pen nemawr dyma ddau ddyn canol oed yn d'od ato, a diolchasant iddo am ei gymwynas, ac wrth ymadael rhoes un o honynt ffon yn rhodd iddo fel cof-arwydd o'i weithred ddaionus. Y flwyddyn wedi hyn, yr oedd gan bob dafad a feddai ar ei helw, ddwy oen fanyw. Ac felly y parhaodd ei ddefaid i epilio am flynyddoedd rai. Ond un noson yr oedd wedi aros yn y pentref nes yr oedd hi'n bur hwyr, ac ni fu noswaith fawr erioed mwy tymhestlog na hono; udai y gwynt a phistylliai'r cymylau, ac yr oedd mor dywyll fel na welid ond y nesaf peth iddim; pan yn croesi yr afon sy'n d'od i lawr o Gwm Llan, a'r llif yn genlli enbyd yn ysgubo pob peth o'i flaen, aeth y ffon ryw fodd o'i law ac erbyn bore dranoeth pan awd i fynu i'r Cwm, gwelwyd fod ei ddefaid oll agos wedi cael eu hysgubo ymaith gan y llif, a bod ei gyfoeth wedi myned i ffwrdd bron fel ag y daeth-hefo'r ffon.