Tudalen:Cymru fu.djvu/490

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TREF NANHWYNEN.

YN nghwr uchaf Nant Gwynant yr oedd tref fawr unwaith, yn cyrhaedd o lan y llyn i sawdl Gallt y Gwryd. Yr oedd y trigolion yn perthyn i'w gilydd i gyd, ac yn arwedd bywyd penrhydd a diofal. Nid oedd un pechod yn rhy annghariadus ganddynt i'w gyflawni, ac nid oedd "ofn Duw o flaen eu llygaid." Mynych y cynghorai ac y rhybuddiai y mynachod hwy, ond ni thyciai na gŵg na gwên i'w cyfnewid. Yn raddol ymgaledasant gymaint fel ag y llwyr fwriadasant ladd pob Offeiriad a ddeuai atynt. Rhoisant rybydd i'r cyfryw i ymogel d'od i'w tref: ond ni fynai gweision Duw hyny, eithr fel o'r blaen, deuent yno i'w rhybuddio hwy i edifarhau. Un diwrnod ar ol i ddau fynach fod yn pregethu bygythion dialeddol Duw am bechod wrthynt, ymroisant i'w lluchio â cheryg, a merthyrasant y ddau yn ddiseibiant. Y noson hono ymddangosodd i un lodesig, yr hon nid oedd o'r un dras a phobl y dref, a'r hon hefyd a wylai yn hidl wrth weled yr ysgelerder, angel claerwyn, a dywedodd wrthi, "Brysia, tyred allan: ffoa o dan gysgod fy aden." Cododd hithau ac aeth ymaith hefo'i gwarchodydd ysprydol. Wedi cyrhaedd allan o'r dref, eisteddodd ar gareg, a gwelai lif o dân gwreichionllyd yn disgyn o'r awyr yn gawod wyrddlas-goch. "Nac ofna," ebe'r angel, a llewygodd hithau, ac erbyn iddi ddadebru rywbryd dranoeth yr oedd tref Nanhwynen yn domen o ludw. Arosodd hi yn yr un lle am ddyddiau rai, yn gweddio Duw ac yn canu ei fawl Ef, ac er cof o'r digwyddiad, galwyd man ei gwaredigaeth fyth wedi hyn Gwastad Annas, oblegyd dyna oedd ei henw: (Agnes y mae'n debyg; ac y mae tŷ anedd yn awr heb fod yn neppell o'r lle y dywedir bod y dref unwaith yn sefyll, yn dwyn yr enw uchod.)