Tudalen:Cymru fu.djvu/491

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y CROCHAN COEL

GAN NICANDER

DAETH i'm llaw, ychydig wythnosau yn ol, gyfrol o lyfr dyddanddoeth ffraethbert o'r enw Cymru Fu. Llawer prydnawn yr wyf wedi bod yn darllen y llyfr hwn i'r teulu; y fi yn darllen yn yr hen gadair dderw un ochr i'r tân mawn, a'r hen wraig mewn cadair arall yr ochr arall yn gwau hosan o gochddu'r ddafad, a'r plant yn eistedd ar stolion trithroed o gwmpas y bwrdd crwn bach, oll yn gwrando ar Hanes Glyndwr, Gwylliaid Cochion Mawddwy, a Robin Ddu Ddewin.

Clywais fy nain, yr hen Fargaret Wyn, dros haner can' mlynedd yn ol, yn adrodd lawer gwaith yr hanes canlynol nad yw yn Cymru Fu am Robin Ddu Ddewin.

Byddai Robin Ddu yn dewinio trwy rinwedd callineb a barn yn llawn mor fynych a thrwy nerth swyngyfaredd: a dyma i chwi un esampl. Yr oedd darn o ŵr boneddig yn sir Ddinbych wedi colli cwpan arian fawr, o werth gryn haner can' punt, ag oedd wedi bod yn y teulu er's oesoedd nad wyf fi ddim yn cofio pa faint. Methu'n glir las ulw a chael y cwpan, er pob ymchwilio a holi ac ymofyn. Gyru am Robin Ddu i swyngyfareddu'r gwpan i'r golwg. Y Robin yn dyfod yn llyfn rhag ei flaen heb golli amser. Dywedwyd yr holl hanes a'r holl amgylchiadau wrth y Robin, ac ychwanegu fod rhyw faint bach o achos i ddrwgdybio'r bwtler. Wrth i wr y ty (ni ddywed- odd fy nain ddim a oedd yno wraig ynte peidio) fyned dros y stori, Robin yn cosi tipyn ar lechwedd ei ben, ac yna yn cosi tipyn ar y llechwedd arall, a rhyw led besychu tipyn, tan wrando. Yna dywedodd, "Os oes neb o'ch tylwyth," eb ef, "wedi lladratta'r gwpan, mi a fynaf ei gael i'r amlwg cyn haner nos heno." Galw'r holl dylwyth bob copa ohonynt yn nghyd at eu gilydd i'r neuadd. Robin yn ei gap coch, a spectol bren anferthol ar ei drwyn, yn gofyn â llais gerwingroch pa un ohonynt oedd wedi lladratta'r cwpan. Pawb yn gwadu. "Os glân ydych oddiwrthi," ebe yntau, "ni bydd gan neb ohonoch wrthwyneb i fyned trwy brawf dewiniaeth." Pawb yn foddlon. Robin yn dweyd bod yn rhaid iddo gael crochan a cheiliog. Cyrchu'r ceiliog o'r glwyd, a'r crochan o'r gegin. Robin