Tudalen:Cymru fu.djvu/493

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwelais yr eisteddfa yn Llanelian. Y mae astyllen o dderw ar y pared yn ymyl, a "gwarcheidwad y Deml" yn doredig arni. Dyna enw swyddog yr "Efail-gŵn.' Pan oedd y wlad yn llawn o ddeadelloedd a bugeiliaid, byddai llawer o gŵn yn eu canlyn i'r llanau ar y Sul, a gwaith mawr fyddai cadw heddwch a gweddeidd-dra yn eu plith; a rhwng y cyfarth, yr ymladd, a'r udleisio yn nghrafangau yr "Efail-gŵn," byddai y cŵn a'u perchenogion mewn digon o helbul yn fynych.

Tras a Pherthynas.

YR oedd y Cymry yn ddiarebol yn yr hen oesoedd am arddelwi âch a pherthynas a'u gilydd. Mae'r wythfed a'r nawfed âch i'w clywed yn fynych ar lafar gwlad, er nad yw yr oes hon yn cydnabod prin ond yr ail a'r drydedd gradd mewn cyd-dylwyth. Gair cyffredin Gwent a Morganwg am geraint, neu berthynasau, yw cyd-dylwyth. Yr oedd gofal yr hen dadau am eu hachau yn dangos serch ac ymlyniad y Cymry wrth eu gilydd. 'Llyma y pum achos sydd i gadw achau:—1. O blaid priodasau teilwng. 2. O blaid etifeddiaethau tir a daear. 3. O achos-o achos tri pheth a bair tyngu anudon, cariad—gwerth—ac ofn. 4. O blaid cas a galanastra. 5. O blaid arfau; canys od â gŵr yn rhaid y brenin, a chael gradd fel y perthyn iddo ddwyn arfau; a gofyn i'r hores (herald) nid yw gymmesur i foneddig, os bydd arfau iddo ef ei hun, a hyny fyddai cydnabod nad oes bonedd iddo yn ei wlad." Hyd y drydedd âch yn unig y gellid hawlio "tir a daear." "Tri pherchenogaeth tir"; ar gyntefig, heb wahardd hyd yn nghwbl y trydedd âr; pentan cyntefig; a brodoriaeth gyntefig, sef yw hyny, rhoddi y frawd gyntaf yn llys, yn mraint a berchenogai y tir hyny o Gymro cynnwynol, bod prawf o hyny hyd gylch rhieni; sef yw rhieni, gwr, ei dad, ei hendad, a'i orhendad; ac o hyny hyd y nawfed âch edryd gerni eu gelwir." Dylai dyn wybod dosbarth a synwyr ar ei rieni, ei gyd-etifeddion, a'i blant. Canys rhieni dyn yw ei dad, ei hendad, a'i orhendad; cyd-etifeddion ynt brodyr, a chefndyr, a chyfyrdyr; etifeddion dyn yw y rhai a hanffo o'i gorph, megys mab, ŵyr, a gorwyr. Pan fo marw dyn o un o'r tair ach o gorph y cyff cynaliawdr, (sef y llinell union-syth,) yn ddietifedd o'i gorph, efe a wyr y dyn (cyfrwys) deallgar pwy a ddylai gaffael y tir hwnw oherwydd cyfraith. Canys hyd y drydedd âch y mae priawd ran ar dir yn llys cwmwd neu gantref, ac y gellir ei hawlio yn y cyfryw lys hwnw; ac ni