Tudalen:Cymru fu.djvu/494

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ellir canlyn cwyn âch ac edryd (a plaint of kin and descent) i maes o lys dygynull, lle bo brawdwr penadur o blaid y brenin yn eisiau."

Hefyd, os oedd mantais yn dyfod i ddyn drwy ei âch, yr oedd anfantais fawr iddo, os byddai ei berthynas yn llofrudd. Disgynai dirwy am alanas (dynladdiad) ar y llofrudd a'i dylwyth. Yr oedd deuparth y ddirwy ar y llofrudd, a'r traian ar ei dad a'i fam. Os byddai ganddo blant mewn oed byddai raid iddynt hwythau dalu eu rhan hefyd; a byddai cenedl y fam, chenedl y tad, hyd y seithfed âch, yn gorfod talu. Felly yr oedd llu mawr o geraint yn gorfod dwyn gwarth pob trosedd a gyflawnid gan y llwyth hwnw. Yr oedd y brawd, y cefndyr, y cyfyrdyr, y cyfnai, y gorchyfuai, y gorchaw, a neiant feibion gorchaw, yn gorfod talu eu rhan o'r galanas. Bellach dyna ni yn gosod graddau tras a pherthynas i lawr:—

I. Y llinell ddisgynedig.—1. Tad, mam. 2. Mab, merch. 3. Wyr, wyres. 4. Gorwyr, gorwyres. 5. Caw, cawas. 6. Gorchaw, gorchawes. 7. Hengaw, hengawes. Gorhengaw, gorhengawes.

II. Y llinell esgynawl.—1. Tad, mam. 2. Tad cu, mam gu. 3. Hendad, henfam. 4. Gorhendad, gorhen fam. 5. Taid, nain. 6. Hendaid, hen-nain. 7. Gorhendaid, gorhen-nain.

III. Llinach gyfredol ddisgynedig.—1. Brawd, chwaer. 2. Cefnder, cyfnither. 3. Cyfyrdir. 4. Ysgiwion. 5. Gwrthysgiwion. 6. Cifyn. 7. Gorchifyn. 8. Gerni. 9. Gwrtherni.

IV. Gradd arall o linach gyfredol.—1. Ewythr, modryb. 2. Nai, nith. 3. Cyfnai, cyfnith. 4. Gorchyfnai, gorchyfnith. 5. Clud. 6. Câr clud. 7. Gwrth clud. 8. Câr o waed.

Yr oedd i ddyn brofi ei fod o genedl y Cymry, o fewn y "nawfed âch," cyn y cydnabyddid ef yn briodawr, neu ŵr rhydd. Byddai alltud yn hir iawn cyn y deuai ei hiliogaeth yn Gymry diledryw. "O derfydd dyfod alltud a gwrhan i'r brenin, a rhoddi tir iddo, a'i fod yn gwarchadw y tir yn ei oes, a'i fab, a'i wyr, a'i orwyr; y gorwyr hwnw a fydd priodawr o hyny allan." O derfydd o'r gorwyr hwnw gwedi hyny roddi ei ferch i alltud, mab y ferch hono sydd a hawl famawl gyda phlant y gorwyr hwnw." "O derfydd i alltud pan ddel o'r wlad wrhan i uchelwr, a myned oddiwrth hwnw at uchelwr arall, a cherdded o hono, a'i fab gwedi ef, a'i wyr, a'i orŵyr, a'i oresgynydd, o uchelwr i'w gilydd, heb wastattau yn un lle mwy na'u