Tudalen:Cymru fu.djvu/495

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gilydd, byddent hwythau ar fraint alltudion hyd tra f'ont heb wastattau felly."

Yr oedd cadw achau fel hyn yn fuddiol ar lawer ystyr:— 1. I gadw y genedl yn bur a diledryw rhag cymysgu ag estroniaid.

2. I gadw moesoldeb a rhinwedd i fynu yn nghorph y genedl yn gyffredin.

3. I feithrin urddas a gwroldeb yn y Cymry, wrth gofio dewrder eu hynafiaid, a'u cadw rhag dwyn gwarth a mefl ar enwau yr hen wroniaid cyntefig.

4. Achau hefyd oedd yn rhoddi hawl i'r dyledogion i'w hetifeddiaethau.

5. Yr oeddynt yn fuddiol hefyd i sicrhau eu breiniau, a'u hanrhydedd i'r dinasyddion.

6. Gan eu bod fel y nodwyd yn rhanu y dirwyon am droseddau rhwng y perthynasau yr oedd yn iawn cadw achau fel y gwybyddid ar bwy i syrthio am dâl; ac yr oeddynt yn cael eu rhwymo fel hyn yn giwdodau wrth eu gilydd yn nghwlwm cymdeithas, yr hyn a'u gwnelai'n fwy anorchfygol fyth. Mae yr yspryd hwnw heb farw eto; am hyny dywedant Cymru fu, Cymru fydd," hyd byth anorphen.

Nawdd Gwraig

"Nawdd gwraig" oedd y nodded neu'r amddiffyniad a roddai gwraig i ffoadur yn amser rhyfel. Ymosod ar y cyfryw un, pan fyddai dan nodded gwraig, oedd "tori ei nawdd." O dair ffordd y sarhâeir y frenines: un yw, tori y nawdd a roddo."—Cyf. H. Dda.

Dynion annewr ac anfilwraidd a ddiystyrent, ac a dorent, "nawdd gwraig," drwy ruthro ar y gelyn tra o dan y cyfryw amddiffyniad. Ni wnelai y mawreddig a'r anrhydeddus hyny, am eu bod yn ormod o ddynion i ymladd a menywod, ac oherwydd eu parch i'r rhyw deg; ac o hyny y tarddodd y ddiareb, "Ni thores Arthur nawdd gwraig."

Môn, Mam Cymru.

Paham y gelwir Môn yn fam Cymru? Mae Giraldus, yr hwn a ymwelodd â Môn yn 1188, yn ateb: ai cywir ai annghywir yw'r atebiad, barned y cywrain. Dyna, beth bynag, oedd barn yr oes hono. "Mae'r ynys hon yn fwy ffrwythlon o ddim cymhariaeth mewn yd nag un parth arall o Gymru; ac o hyny y cododd y ddiareb Gymreig, Mon mam Cymru." Pan mae'r cnydau yn ddiffygiol yn