mig hefo Llanciau'r Clogwyn. Criw direidus enbyd oedd y rhai'n. Unwaith yr oedd y Teiliwr wedi bod yn addaw d'od i'r Clogwyn i weithio am yn hir, ac yn eu siomi. Ond ar ol hir a hwyr ddisgwyl daeth, ac nid oedd ond "talu i'r Teiliwr" ar ol iddo ddyfod. Felly dyma ddau o honynt i'r tŷ, a chloben o raff rawn o dan gesail un o honynt. Yna aethant un o bobtu'r bwrdd, a dechreuasant o ddifrif "dalu i'r Teiliwr" am ddweyd celwydd. "Aros di, Twm," ebai Ned Owen, "mi gei di fyn'd i gyfri'r sêr oddiar gefn yr ebol melyn. Tyr'd yrwan 'y mrawd." Gafaelodd y ddau ynddo, ac allan ag ef, a'r hen wraig eu mam yn mwynhau y driniaeth cyn gysted a neb. Daliwyd yr eboles felen yn hwylus a rhwymwyd y Teiliwr hefo'r rhaff rawn ar ei chefn, ac yna'r cwn ar ei hol ar hyd y llechwedd, a thrwy ganol y corsydd, i lawr at Lyn Cawellyn, ac i fynu at Gwm Planwydd, nes oedd yr hen gorphilyn bron wedi marw rhwng ofn a phobpeth. Troes y ferlen ei phen tuag adref, ac unionodd am Glogwyn y Gwin, a'r meibion wrth fodd eu calonau wedi cael gweled boneddwr y nodwydd ddur yn chwrlio ar gefn yr eboles felen. Yr oeddynt wedi dysgu campau ystumddrwg i'r eboles, oblegyd dyna fel y galwent hi, er ei bod yn ddiddadl wedi bod yn pori ar y weirglodd gerllaw am o leiaf ddeuddeg haf. Ar ol i Tomos y Teiliwr gael ei ryddhau, oblegyd yr oedd ei ddwylaw a'i draed yu rhwym pan ar gefn yr anifail, cymerwyd ef i'r tŷ, a gorfu arno fwyta cryliad o faidd. Yna cafodd lonydd am y diwrnod hwnw. Dro arall yr oedd Tomos yno'n gweithio, ac erbyn hyn nid oedd neb arall a ddeuai'n agos at y tŷ, rhag ofn a fyddai gwaeth iddo. Yr oedd Ifan Hir y Waun fawr wedi gorfod bwyta crochanaid o uwd yno rywbryd, ac yfed tri chwart o hen gwrw or ol hyny, nes y bu yn sâl am wythnos gyfan. Ac yr oedd Deio bach Nant Cwm Brwynog wedi cael gwasgu'r fêg arno, a'i ddowcio'n dda ganddynt rywbryd. Yr oedd Deio'n llawn mor gastiog a hwythau, ac ni phryfociodd neb mo Lanciau'r Clogwyn haner mor ddeheuig ag ef am gymaint o amser. Byddai Deio'n myned dros y mynydd yn fynych ddydd Sul i ad-dalu am a wnaed iddo gynt. Byddai yn myned uwchben Clogwyn y Gwin ac yn gwaeddi nerth esgyrn ei ben,
"Yr hogiau mawr diog,
Mae DEIO CWM BRWYNOG
Yn gofyn am gyflog
Yn gefnog ar gan:
Dowch allan, lebanod,
I odro eich gafrod,
Chwiorydd cam bychod, Cwm Bychan."