Tudalen:Cymru fu.djvu/499

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Byddai hyn yn sicr o dynu'r holl deulu allan, a'r cwbl yn wibwrn wylit. Rhedai un ffordd yma, fel milgi ar ol ysgyfarnog, ac un arall a wadnai'r ffordd draw fel ebol gwyllt, ond nid oedd yn ddim haws dal mellten pan yn gwibio drwy'r awyr na cheisio dal Deio. Byddai yn sicr o gael eu blaen a chyrhaedd Cwm Brwynog yn groeniach hollol. Ond i fyned yn ol at Twm y Teiliwr: yr oedd ef bob amser yn cael haner ei ferthyru ganddynt pan elai yno i bwytho. Y tro dan sylw, yr oedd y Teiliwr ar ben y bwrdd ryw ddechreunos, a dyma'r cŵn yn cyfarth yn ddi-drefn. Dyma un o'r brodyr yn myned allan, ac yn gwaeddi, "Myn cigfran, hogiau, y mae Jac y Lanter ar weirglodd Cawellyn." Piciodd y Teiliwr oddiar y bwrdd, ac am y drws, a chyda hyny dyma ddau o genawon yn ei gipio i ffwrdd ac at lan yr afon yr aed, ac yno rhoed tri chynyg iddo: y 1af oedd myned at gorn ei wddf i gorbwll; yr 2il, neidio tros bladur a gafael yn modiau ei droed; a'r 3ydd, yfed cowdal, milar strộc. Dewisodd Twm yr ylaf. Aeth i'r tŷ ar wâr un ohonynt, ac yna dechreuwyd o ddifrif wneud y cowdal ar ei gyfer. Ond mynai Ned mai lledr yfent a mêl oedd y peth goreu iddo, a chan na fedrent gytuno cafodd y Teiliwr lonydd y tro hwn. Daeth Twm Deiliwr yn araf deg i ddeall y Llanciau; a phan elwid arno, yno yr âi yn union deg, a chaffai groeso calon ganddynt. Y mae dwy neu dair eraill o chwedlau pen gwlad am danynt, ond cadwn y rhai hyny hyd rywbryd eto. Y mae Hen Lanciau Clogwyn y Gwin wedi myned i ffordd yr holl ddaear er's blynyddau, a'u campau drwy drugaredd wedi diflanu.

HEN BENILLION

Pan eis I i fyw yn gynil, gynil,
Fe aeth un ddafad imi'n ddwyfil;
Pan eis I i fyw yn afrad, afrad,
Fe aeth y ddwyfil yn un ddafad.


Pan oeddwn gyfoethog cyn myn'd yn dylawd,
Yr oeddwn yn gâr ac yn gefnder i bawb;
Pan eis yn dylawd ac i fyw mewn dyled,
Nid oeddwn yn gâr na chefnder i neb.